Y Crynwyr yng Nghymru
Prosiect Croeso Ysbrydol

ENGLISH


Crynwyr Cymru


Croeso

Rhagair

Pennod 1

Pennod 2

Pennod 3

Pennod 4

Pennod 5

Pennod 6

Pennod 7

Pennod 8

Pennod 9

Pennod 10

Pennod 11

Atodiad I

Atodiad II

Atodiad III

Atodiad IV

Atodiad V

Atodiad VI

Cyfeiriadau

Cydnabyddiaeth

Rhestr o
Dermau’r Crynwyr


Contact us:
stevie.k
@tiscali.co.uk


This project
is entirely
funded by the
Joseph Rowntree
Charitable Trust

Croeso Ysbrydol

“Croeso Ysbrydol ? Be ydy hwnnw ?” Roeddem am gael ymadrodd ac iddo ystyr ehangach na “ymestyn i’r gymuned”, ymadrodd fyddai’n cynnwys yr hyn mae’r Crynwyr yn ei wneud i sicrhau fod ymwelwyr ysbrydol yn cael croeso yn ein mhysg, waeth be fo’u tras, cenedligrwydd, oed, dosbarth neu unrhyw agwedd arall ar eu cefndir cymdeithasol. Nid yw ymestyn i’r gymuned yn dod i ben ar garreg ddrws y tý cwrdd.

Rydym, fel Crynwyr, yn ymfalchio yn ein didwylledd ac yn ein croeso i ymwelwyr. Ac eto, yn aml, mae’n ymddangos fod ein cyfarfodydd yn denu cyfranogwyr o gefndir cyfyng, yn gymdeithasol ac yn ddiwyllianol. Sefydlwyd y Prosiect Croeso Ysbrydol gan Gyfarfod y Cyfeillion yng Nghymru er mwyn:

  • edrych, gyda Chrynwyr ac eraill, am y rhesymau posibl am hyn
  • chwilio am ddulliau o weithredu effeithiol yng Nghymru ac mewn mannau eraill
  • amgyffred y problemau mae cyfarfodydd yng Nghymru yn eu hwynebu
  • darganfod be ellir ei wneud i gynnal ymdrechion lleol wrth ymestyn i’r gymuned