|
Y Crynwyr yng Nghymru Prosiect Croeso Ysbrydol
|
ENGLISH
Crynwyr Cymru
Croeso
Rhagair
Pennod 1
Pennod 2
Pennod 3
Pennod 4
Pennod 5
Pennod 6
Pennod 7
Pennod 8
Pennod 9
Pennod 10
Pennod 11
Atodiad I
Atodiad II
Atodiad III
Atodiad IV
Atodiad V
Atodiad VI
Cyfeiriadau
Cydnabyddiaeth
Rhestr o Dermau’r Crynwyr
Contact us:
stevie.k
@tiscali.co.uk
This project
is entirely
funded by the
Joseph Rowntree
Charitable Trust
|
Cyflwyniad
"Do you welcome the diversity of culture, language and expression of faith in our Yearly Meeting....?"
Advices and Queries 16
"A ydych yn croesawu’r amrywiaeth mewn diwylliant ac iaith a mynegiant ffydd sydd o fewn ein cyfarfod blynyddol ac yn y gymuned byd-eang o Gyfeillion...?"
Cynghorion a Holiadau 16
1.1 Tarddiad Pryder
Cychwynnodd y prosiect hwn yn ffordd draddodiadol y Crynwyr fel pryder personol Stevie Krayer,aelod o Gyfarfod Misol De Cymru a Quaker Life Outreach Committee. Gellir crynhoi ei phryder fel a ganlyn: Pam mae cymaint o Grynwyr yn perthyn i’r dosbarth canol, yn ganol oed neu’n hþn, yn wyn eu croen, yn Eingl-Sacsonaidd, wedi cael eu haddysgu mewn prifysgol ac mewn sefyllfa ariannol gyffyrddus? Ac yn arbennig, pam mae hyn yn wir yng Nghymru, lle y mae gan yr elfen Eingl-Sacsonaidd, arwyddocâd ychwanegol (gweler 1.4 isod)?
Roedd yn ymddangos i Stevie, a’r rhai y rhannodd ei phryder â nhw, y gallai’r ateb i’r cwestiwn hwn olygu darganfod mwy am ddwy agwedd wahanol, ond y ceir cyswllt agos rhyngddynt, ar ein bywydau fel cymunedau Crynwyr - cynhwysedd yn ein cyfarfodydd.
Yn ôl i'r brig
1.2 Y Pryder - Cynhwysedd
Dro ar ôl tro, mae profiadau o gael eu gwahardd, eu brifo neu eu barnu yn ôl stereoteipiau, wedi cael eu mynegi gan Gyfeillion yn The Friend ac mewn mannau eraill - gan Gyfeillion Prydeinig du yn cael eu hanwybyddu neu eu trin yn nawddoglyd, rhiant plentyn ifanc yr oedd cyfarfod yn anfodlon gwneud darpariaeth ar eu cyfer, bachgen byddar yn cael ei fwlio a’i boeni yng nghyfarfod y plant. Dros y blynyddoedd, mae Cyfeillion wedi mynegi pryder nid yn unig ynghylch cyfansoddiad cymuned y Crynwyr ym Mhrydain, sydd bron yn wyn eu croen i gyd ac sy’n perthyn i’r dosbarth canol, ond am y dybiaeth eang ymhlith Cyfeillion, ein bod ‘ni’ oll yn wyn ein croen ac yn perthyn i’r dosbarth canol. Bu’n rhaid ychwanegu troednodyn i Ddatganiad o Fwriad ar Hiliaeth 1988 y Cyfarfod i Ddioddefiannau, yr oedd ei fwriad yn dda, yn rhifyn 1995 Ffydd ac Ymarfer y Crynwyr, yn ymddiheuro am y ffaith bod “the use of language in the passage above gives the mistaken impression that in 1988 all Friends were white”. [Ffydd ac Ymarfer y Crynwyr 23.36]
Yng Nghymru, mae’n ymddangos na chaiff grðp allweddol ei gynrychioli ymhlith y Cyfeillion, sef y Cymry eu hunain, er mai nhw yw’r ‘mwyafrif ethnig’ lleol. Gellir dod ar draws Cyfeillion mewn cyfarfodydd yng Nghymru, sy’n ymddwyn fel pe baent o’r farn ein bod oll yn Saeson. Mae rhai yn ddistyriol o Gymreigrwydd neu’n gwgu arno fel enghraifft o genedlaetholdeb dinistriol. Yn yr amgylchiadau, ni fyddai’n syndod os byddai’r Cymry yn dod i’r casgliad ‘nad oedd Crynwriaeth iddyn nhw’.
O ystyried ein goddefgarwch diwinyddol, natur agored ein cyfarfodydd, natur gynhwysol tawelwch fel cyfrwng addoli a’n harddeliad bod pob unigolyn yn “unigryw, yn werthfawr, yn blentyn Duw”, mae’r detholusrwydd cymdeithasol hwn yn ddryslyd, heb sôn am fod yn rhywbeth sy’n peri embaras. Sut gallwn annog cymdeithas i fod yn fwy cynhwysol, a ninnau’n methu â bod yn ‘batrymau ac esiamplau’? Onid yw hi’n edrych fel pe bai’n well gennym yn y bôn, pe bai’r tlawd, y dosbarth gweithiol a rhai grwpiau ethnig neu ddiwylliannol, yn aros lle y maent, a chael eu gweinidogaethu, yn hytrach na cheisio ymuno â’n cymuned?
Yn ôl i'r brig
1.3 The Concern - Outreach
Ac yna, ceir cwestiwn ein proffil isel iawn. Adroddodd Ben Pink Dandelion, yn ei arolwg cymdeithasegol o ddiwinyddiaeth Cyfeillion ym 1996, fod yn well gan gymaint â 60% o Gyfeillion beidio â sôn wrth unrhyw un am eu hymlyniad crefyddol.
Ysgrifennodd Richard Hilken yn The Friend (16 Mehefin 2002) am ei ddarganfyddiad ei hun o Grynwriaeth:
Why was the Society so hard to find? Perhaps the words once used to me by an elderly Friend - ‘If they want to find us, they will know how’ - still represented a common attitude in the Society. I hope not. I find it conceited to assume that anyone can be sure of finding what they seek amid the cacophony of the modern media. I think we should all try to be less shy of admitting our beliefs and speak out when we see a suitable opportunity.
Mae nifer wedi gweld bod Crynwriaeth yn gydnaws o’i gymharu ag enwadau eraill oherwydd ei reol “dim cenhadu” anysgrifenedig - tystiolaeth ynddo’i hun bron. Datblygodd yr egwyddor hon yn gyntaf fel bwriad hollol clodwiw i helpu eraill oherwydd cariad yn unig, heb unrhyw reswm pellach. Y drafferth oedd, pan oedd y rhai a oedd yn manteisio ar y Crynwyr a’r rhai a helpwyd ganddynt yn perthyn i wahanol ddosbarthiadau cymdeithasol, roedd hi’n rhy hawdd i’r polisi hwn symud yn gymharol isymwybodol o barch tuag at y llall i ryw fath o ddetholusrwydd snobyddlyd; felly, yr unig Grynwyr newydd oedd, trwy ddiffiniad, y rhai nad oedd angen cymorth elusennol arnynt. Mae’n bryd i ni bellach efallai, ofyn i’n hunain a ydym wedi dilyn y polisi i’r fath raddau eithafol fel ein bod yn rhoi delwedd i’r byd y tu allan o glwb preifat, a chymdeithas gudd (ac efallai cymharol sinistr) hyd yn oed.
Beth bynnag yw’r rhesymau sylfaenol dros y ffaith ein bod yn anweledig, mae’n ymddangos nad yw llawer o bobl wedi clywed am Grynwyr ac eithrio fel enw ar becyn grawnfwyd. Mae’r rhai sydd wedi clywed amdanom yn aml yn synnu na wnaethom ddarfod flynyddoedd yn ôl. Mae’n boenus i feddwl bod pobl a allai fod wedi “dod o hyd i'r hyn y maent yn chwilio amdano” ymhlith y Cyfeillion yn cael eu gadael yn yr anialwch ysbrydol i fyw ar friwsion oherwydd nad oes ganddynt y ddawn o fod yn golomen ddychwel! A beth ydym ni’n ei golli trwy fod yn gymdeithas mor ddethol?
Yn ôl i'r brig
1.4 Y Cyd-destun Cymreig
Mae dimensiwn ychwanegol i unrhywiaeth cymdeithasol y Crynwyr yng Nghymru. Roedd yr arolwg, a ddarparodd y deunydd sylfaenol ar gyfer y llyfr Mae’r Gân yn y Galon - Quakers in Wales Today, yn awgrymu nid yn unig bod llawer yn llai o bobl di-waith, a chymaint yn fwy o bobl sy’n berchen ar eu tai eu hunain, ymhlith y Crynwyr nag ymhlith y boblogaeth o gwmpas, ond bod mwyafrif helaeth y Crynwyr yng Nghymru wedi symud yno o Loegr. Dim ond 27% o’r ymatebwyr a oedd wedi cael eu geni a’u magu yng Nghymru, a dim ond 6% a oedd yn honni mai’r Gymraeg oedd eu mamiaith, ac roedd 9% arall wedi ‘etifeddu’r’ Gymraeg. Yr hyn sy'n fwy arwyddocaol hyd yn oed yw mai dim ond hanner o’r 15% hwnnw a ddisgrifiodd y Gymraeg fel “iaith eu profiad ysbrydol”. Ar yr ochr gadarnhaol, roedd tri o bob pedwar o’r ymatebwyr naill ai wedi mabwysiadu’r iaith, yn ei dysgu, neu’n deall rhywfaint o Gymraeg ysgrifenedig neu ar lafar. Ac yn ogystal â’r 27% a anwyd yng Nghymru, roedd 30% arall wedi bod yn byw yng Nghymru am dros 18 mlynedd (dyma oedd y canrannau ym 1997).
Mae hyn yn awgrymu llawer o gariad tuag at Gymru ac ychydig ymwybyddiaeth o’i diwylliant arbennig. Mae digwyddiadau megis sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol wedi codi proffil Cymru hefyd, gan ehangu cydnabyddiaeth y cyhoedd o “Gymreigrwydd” a’u hyder ynddo, ymhlith Cyfeillion ac ymhlith gweddill y boblogaeth. Ac yng Nghymru, yn gymaint ag yn Lloegr, mae’n ymddangos bod nifer wedi eu dadrithio gyda’r eglwys neu’r capel y gwnaethant fynychu yn ystod eu plentyndod; nid oes unrhyw reswm dros gredu bod llai o newyn ysbrydol yr ochr hon i Glawdd Offa. Er gwaethaf hyn, mae’n ymddangos nad oes llawer o bobl leol mewn cymunedau Cymreig lleol yn troi at gymdeithas y Cyfeillion fel cartref ysbrydol posibl.
Yn oes George Fox - er gwaethaf y rhwystr ieithyddol - ymunodd llawer o’r Cymry â’r Gymdeithas, o nifer o wahanol gefndiroedd. Yn ôl Emyr Humphreys, "Their mission was most effective among two distinct social classes: in the Border country among skilled artisans and owner-occupying smallholders, and in the remote valleys among ancient families with long pedigrees and independent minds..."
Nid yr holl amrediad, o’r dynion a oedd yn aredig y tir, i arglwyddi, ond nid yn wael. At hyn, mae Emyr Humphreys yn canmol y Cyfeillion cynnar am fod yn rhan o hanfod Cymreigrwydd fel eu bod wedi bod, mewn gwirionedd, "among the first to raise what was virtually a standard of Welsh independence after the suspension of specific nationality and the prolonged euphoria induced by the Tudor Settlement." Mae’n mynd ymlaen i ddweud:
The story of the Welsh Quakers is yet another example of the Welsh survival syndrome at work: that unexpected combination of ancient and modern, of the oldest and newest beliefs that appears to make a renewal of identity possible, as it were, at the very moment of extinction. [The Taliesin Tradition]
Yn ôl pob golwg, mae’n ymddangos bod pob rheswm dros ddisgwyl i’r Cymry gael eu denu at Grynwriaeth heddiw. Adlewyrchir elfennau egalitaraidd a heddychlon cadarn y traddodiad Cymreig yng ngwerthoedd y Crynwyr. Nid yw iaith (ac ni ddylai fod) yn rhwystr wrth i bobl eistedd yn dawel gyda’i gilydd i aros am y dwyfol, sydd y tu hwnt i raniadau ieithyddol a diwylliannol. A yw’r Cymry’n rhy ffyddlon i’w capeli a’u heglwysi traddodiadol (er nad ydynt yn eu mynychu’n aml iawn)? A ydym yn anghroesawgar mewn unrhyw ffordd? Beth yw barn y gymuned o amgylch o’r Crynwyr? A oes barn amdanynt o gwbl? A beth, os o gwbl, allai neu ddylai’r Cyfeillion yng Nghymru ei wneud am y peth? Ffurfiwyd y Prosiect Croeso Ysbrydol/Spiritual Hospitality Project i ateb y cwestiynau hyn.
Yn ôl i'r brig
1.5 Y cyd-destun Crynwrol
Ymddengys bod y pryder yn rhan o ymchwydd ar draws y Cyfarfod Blynyddol. Yn ystod Cyfarfod Blynyddol 2000 rhoddwyd ffocws cadarn ar ymestyn i’r gymuned ac ‘ymestyn i mewn’. Roedd y rhain yn dechrau ystyried gwahanol agweddau ar yr un broblem - ein swildod ynghylch cyfleu ein ffydd i’n gilydd ac i’r byd y tu allan. Yn sydyn, cwestiynwyd y tawelwch a ddygwyd y tu hwnt i’r cyfarfod er mwyn addoli, i guddio ein holl gysylltiadau. A oedd y rhai a wnaeth ein cyrraedd adael oherwydd eu rhwystredigaeth na allent gael ymateb uniongyrchol i’w chwiliad am ddealltwriaeth ddyfnach o ffydd ac arfer Crynwriaeth? A oeddem yn cuddio y tu ôl esgus ein hamrywiaeth diwinyddol er mwyn osgoi gorfod paratoi atebion i gwestiynau anodd? A oeddem yn pryderu ynghylch osgoi brifo teimladau wrth wrthdaro â’n tystiolaeth o’r gwirionedd? A wnaeth ein harfer o roi taflen i’r rhai a oedd yn holi, neu eu cyfeirio i’r llyfrgell, fodloni anghenion y rhai nad ydynt mor hoff o ddarllen llyfrau?
Ym mis Tachwedd 2002, cytunodd y Cyfarfod i Ddioddefiannau ar nodau ar gyfer y tymor hir a oedd yn cynnwys y canlynol:
Be clear, confident and articulate about our faith and our leadings, develop accessible and open channels of communication within and beyond the Yearly Meeting.
Mae’r cynllun ar gyfer y tymor hir yn nodi’n amlwg y dylid rhoi “priority to strengthening our church, and this most definitely includes outreach”. [ein llythrennau italig]
Mae nifer o fentrau perthnasol wedi bod yn cael eu trafod ar draws Cyfarfod Blynyddol Prydain yn ystod y blynyddoedd diweddar:
- Mae Quaker Life Outreach Committee a Quaker Life Committee on Eldership and Oversight, wedi bod yn cydweithio i ddatblygu prosiect ar Rannu ein Harfer a’n Ffydd.
- Mae Quaker Life Central Committee wedi dechrau archwilio cynhwysedd. Yn benodol, mae QLCC yn chwilio am ffyrdd o ddatblygu CBP yn gymuned fwy cynhwysol - yng ngeiriau ei glerc, “a process that binds us all together, not something which we ‘do’ to ‘other’ people. It is not a separate activity but part of all that we do.”
- Yn ystod 2002, cynhaliodd QLCC adolygiad o waith ei Bwyllgor Ymestyn i’r Gymuned hefyd. Fel rhan o’i archwiliad, dosbarthodd y grðp adolygu holiadur ymhlith y Cyfeillion a fynychodd CB 2002. Cafwyd oddeutu 210 o ymatebion, a dangoswyd llawer o ddiddordeb yn nyfodol gwaith ymestyn i’r gymuned. Roedd nifer o’r ymatebion yn sôn am yr angen am “enthusiasm, time, energy, commitment, courage, accessible meeting-house, money, sense of priority, joy” ac, yn fwy penodol, “Training in communication skills” ac “experience of talking spiritually to others about our own inner lives”. Adlewyrchwyd y sylwadau hyn gan Gyfeillion a siaradodd â’r prosiect Croeso Ysbrydol.
- Cychwynnodd Cyfarfod Misol Hampstead ar ei Quaker Quest cyffrous, menter fawr i ymestyn i’r gymuned yn Llundain, a oedd yn cynnwys cyfres o gyfarfodydd trafod agored ynghylch agweddau ar Grynwriaeth. Mae’r rhain yn boblogaidd iawn. Pwy sy’n dod i’r trafodaethau a beth sy’n digwydd iddynt wedi hynny?
- Ar yr un pryd, mae’r Gweithgor Grwpiau Rhanbarthol a Lleol wedi bod yn teithio o gwmpas y wlad i archwilio gyda Chyfeillion eu teimladau am eu cyfarfodydd ac a oes angen grwpio cyfarfodydd yn wahanol. Er bod hwn yn archwiliad mewn maes gwahanol, mae’n ymddangos ei fod yn rhoi rhyw oleuni ar y ffordd y mae’n strwythurau yn mynd ag egni’r Cyfeillion yn hytrach na “freeing up channels for the Spirit”, a pham mae rhai yn teimlo nad oes llawer o le ar ôl i bryderon megis ymestyn i’r gymuned a chroesawu newydd-ddyfodiaid.
- Yn olaf, ac efallai’n bwysicaf oll o ran y prosiect hwn, penododd Cyfarfod y Cyfeillion yng Nghymru (CCNg) yn 2000, Exhibitions and Outreach Committee (a elwir y Pwyllgor Ymestyn i’r Gymuned bellach). Blaenoriaeth gyntaf y pwyllgor oedd creu arddangosfa ddwyieithog newydd yr oedd angen dybryd amdani yn nigwyddiadau cyhoeddus y Crynwyr, gan gynnwys stondin y Crynwyr yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Roedd y pwyllgor yn awyddus, fodd bynnag, i ddechrau delio â’r agweddau ysbrydol dyfnach yn ei gylch gorchwyl. Roedd yn croesawu’r syniad am brosiect a allai hysbysu ac arwain cyfeiriad ei waith yn y dyfodol. Felly, ffurfiwyd y Prosiect Croeso Ysbrydol.
Yn ôl i'r brig
|