Y Crynwyr yng Nghymru
Prosiect Croeso Ysbrydol

ENGLISH


Crynwyr Cymru


Croeso

Rhagair

Pennod 1

Pennod 2

Pennod 3

Pennod 4

Pennod 5

Pennod 6

Pennod 7

Pennod 8

Pennod 9

Pennod 10

Pennod 11

Atodiad I

Atodiad II

Atodiad III

Atodiad IV

Atodiad V

Atodiad VI

Cyfeiriadau

Cydnabyddiaeth

Rhestr o
Dermau’r Crynwyr


Contact us:
stevie.k
@tiscali.co.uk


This project
is entirely
funded by the
Joseph Rowntree
Charitable Trust

Pennod 11: Argymhellion

Mae’r canlynol yn cyfuno’n holl argymhellion dan benawdau Cyfeillion unigol, cyfarfodydd lleol, Cyfarfod y Cyfeillion yng Nghymru a grwpiau mawr eraill.

11.1 Cyfeillion Unigol

(i) Cydnabyddwch fod croeso ysbrydol yn rhan annatod o'ch tystoliaeth Crynwrol personol. Byddwch yn barod i 'gyfaddef' eich bod yn Grynwr. Byddwch yn sensitif i newydd-ddyfodiaid a diweddar ddyfodiaid; peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd rhywun arall yn gofalu amdanynt. Cofiwch bwysigrwydd y 'pethau bychain' - gwên ar gyfer hwyr ddyfodiaid, gair o werthfawrogiad, gwahoddiad personol i gymryd rhan mewn digwyddiadau.

(ii) Gweithiwch gyda Chyfeillion eraill i wella'ch dealltwriaeth o neges Y Crynwyr ac i ymarfer rhannu eich argyhoeddiadau ar lafar.

(iii) Monitrwch yr iaith y byddwch yn ei defnyddio i rannu eich profiad a'ch syniadau. Dylid osgoi neu esbonio jargon a byrfoddau. Mae dyletswydd penodol ar gofnodwyr cyfarfodydd i esbonio unrhyw dermau a allai fod yn annelwig.

(iv) Byddwch yn effro i'r hyfforddiant sydd eisoes ar gael a beth allai gael ei gynnig yn y dyfodol i'ch galluogi i esbonio Crynwriaeth i ddieithriaid a newydd-ddyfodiaid.

(v) Dylai'r rheiny nad ydynt yn siarad Cymraeg geisio dysgu rhywfaint o'r iaith. Cofiwch yr angen i gydnabod, parchu a dysgu am ddiwylliant unigryw Cymru.

(vi) Mewn cyfarfodydd mwy, cymerwch fantais o'r seibiannau rhwng trafodaethau i ddod i adnabod newydd-ddyfodiaid.

Yn ôl i'r brig

11.2 Cyfarfodydd Lleol

(i) Ceisiwch sicrhau bod Crynwriaeth yn fwy hysbys a dealladwy yn eich cymunedau, gan ddefnyddio'r adnoddau ymestyn i'r gymuned sydd ar gael gan CBP a CCNg, yn ogystal â'r syniadau a restrir yn y prif adroddiad, a chan ystyried digwyddiadau lleol yn eich cynlluniau.

(ii) Dewch i adnabod eich cymunedau 'dalgylch' yn well a sicrhewch eich bod yn ymwneud yn well â bywyd lleol, fel Crynwyr llwyr ymroddgar. Meddyliwch yn gariadus am eich cymdogaeth - cofiwch eich bod yn rhan ohoni!

(iii) Ystyriwch symud (os yw'n angenrheidiol) i fan cyfarfod mwy canolog, hygyrch, gweladwy a deniadol. Dylai cyfarfodydd heb dy cwrdd naill ai rhoi ystyriaeth ddifrifol i brynu un, neu geisio darganfod 'gwesteiwr' a fyddai'n hapus i hysbysebu presenoldeb Y Crynwyr.

(iv) Defnyddiwch y ddwy iaith yn eich holl hysbysebu a deunyddiau printiedig. Gwnewch ddefnydd o ddeunydd dwyieithog a iaith Gymraeg sydd ar gael yn ogystal â deunyddiau iaith Saesneg yn eich digwyddiadau cyhoeddus ac yn y cyfarfod. Gwnewch rywfaint o ddefnydd o'r Gymraeg yn y cyfarfod, ee rhai geiriau o gyfarch.

(v) Dylai unrhyw un sy'n mynychu cyfarfodydd mwy am y tro cyntaf gael eu cefnogi gan Gyfaill sydd wedi bod o'r blaen ac sy'n gallu esbonio gweithdrefnau a chyflwyno'r newydd-ddyfodiad i eraill.

(vi) Dewch o hyd i Gyfaill sy'n barod i fod yn hysbys i'r Adran Ymestyn i'r Gymuned yn Friends House a Phwyllgor Ymestyn i'r Gymuned CCNg, a dod yn rhan o rwydwaith wybodaeth ymestyn i'r gymuned.

Yn ôl i'r brig

11.3 Cyfarfod y Cyfeillion yng Nghymru

(i) Trefnwch gyfarfod dilynol ar gyfer y chwe chyfarfod a gyfranogodd mewn gweithdai Prosiect

(ii) Cynhaliwch weithdai croeso ysbrydol er mwyn i gyfarfodydd lleol ddatblygu eu cynlluniau gweithredu eu hunain

(iii) Anogwch a thalwch i aelodau o Bwyllgor Ymestyn i'r Gymuned CCNg hyfforddi fel 'hyfforddwyr' a allai gynnig gweithdai croeso ysbrydol a/neu hyfforddiant arall wedi'i deilwra ar gyfer anghenion cyfarfodydd lleol yng Nghymru.

(iv) Ystyriwch ffyrdd a dulliau o ddarparu cynhaliaeth weinyddol wedi'i thalu i swyddogion y Cyfarfod ac i swyddogion y cyfarfodydd lleol, er mwyn caniatáu mwy o amser ar gyfer materion nad ydynt yn rhai gweinyddol.

(v) Cynlluniwch wefan ddwyieithog o ansawdd uchel ar gyfer y cyfarfod, a dewch o hyd i berson ac adnoddau ar gyfer diweddaru'r safle yn rheolaidd.

(vi) Cynhaliwch ddigwyddiadau fydd yn cefnogi datblygiad croeso ysbrydol, ee cyrsiau ar Gymru a Chymreictod, diwrnodau hyfforddi, cynadleddau ar fynegi neges Y Crynwyr, cyfarfodydd holwyr wedi'u teilwra ar gyfer y cyd-destun Cymreig.

(vii) Crëwch rwydwaith o gysylltiadau ymestyn i'r gymuned leol yng Nghymru ar gyfer rhannu gwybodaeth a hwyluso cydlynu ymdrechion ymestyn i'r gymuned.

(viii) Byddwch yn barod i gefnogi cyfarfodydd lleol sy'n dymuno ymgymryd â mentrau cymdogaeth a, phan fo'n briodol, tynnwch sylw cyfarfodydd lleol at gyfleoedd ymestyn i'r gymuned, neu sefyllfaoedd lle gallai'r Crynwyr chwarae rôl ddefnyddiol.

(ix) Ystyriwch ddigwyddiadau pwysig yn y calendr Cymreig wrth gynllunio gweithgareddau ymestyn i'r gymuned.

Yn ôl i'r brig

11.4 Cyfarfod Blynyddol Prydain,
Cyfarfod y Cyfeillion yng Nghymru gyda chyrff eraill

(i) Dylai CBP nodi bod adnoddau a chynhaliaeth ganolog yn parhau i fod yn hanfodol ar gyfer ymestyn i'r gymuned leol yn effeithiol. Yn benodol, dylai'r dasg o egluro pwy ydym ni a'r modd rydym yn mynegi ein neges gael ei chefnogi ar lefel cyfarfod blynyddol.

(ii) Dylai Adran Ymestyn i'r Gymuned CBP baratoi rhestr unigol, gynhwysfawr o'r holl adnoddau ymestyn i'r gymuned sydd ar gael o ganlyniad i'r cyfarfod blynyddol. Dylai darparwyr eraill o adnoddau'r Crynwyr wneud yr un fath ar gyfer eu hadnoddau eu hunain.

(iii) Croesawir y syniad o rwydwaith gwybodaeth ymestyn i'r gymuned CBP. Dylid annog rhwydweithio rhwng cyfarfodydd lleol hefyd.

(iv) Dylai CCNg, mewn ymgynghoriad â Quaker Life Outreach Committee a Woodbrooke, ystyried pa hyfforddiant pellach fyddai'n helpu'r Cyfeillion wrth ddatblygu llais hyderus i'r Crynwyr o fewn a thu hwnt i'r Gymdeithas. Pwysleisiwn bwysigrwydd hyfforddwyr yn cynnal y digwyddiad hyfforddi allan yn y fro yn hytrach na disgwyl i Gyfeillion deithio i fan cyfarfod canolog bob tro.

(v) Dylai CCNg a chyfarfodydd lleol ystyried ar y cyd ffyrdd o alluogi cyfarfodydd gwledig anghysbell i gysylltu â'i gilydd a gweithio fel 'consortia' ar eu hymestyn i'r gymuned a'u datblygiad fel 'gwesteiwyr ysbrydol'.

(vi) Dylai cyfarfodydd ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol gymryd y cyfle a gyflwynir gan y drafodaeth bresennol ar 'symud i mewn i aelodaeth', i ystyried a gweithredu dulliau 'sefydlu' priodol i ffordd Y Crynwyr. Dylai CBP gynhyrchu taflen syml, hygyrch ar ddull busnes Y Crynwyr fel model y gellir ei addasu yn ôl yr angen.

(vii) Dylai cyfarfodydd misol a chyfarfodydd mawr eraill ddarparu bathodynnau enw a dylent ofyn i Gyfeillion eu henwi eu hunain wrth wneud cyfraniad yn y trafodaethau.

Yn ôl i'r brig