Y Crynwyr yng Nghymru
Prosiect Croeso Ysbrydol

ENGLISH


Crynwyr Cymru


Croeso

Rhagair

Pennod 1

Pennod 2

Pennod 3

Pennod 4

Pennod 5

Pennod 6

Pennod 7

Pennod 8

Pennod 9

Pennod 10

Pennod 11

Atodiad I

Atodiad II

Atodiad III

Atodiad IV

Atodiad V

Atodiad VI

Cyfeiriadau

Cydnabyddiaeth

Rhestr o
Dermau’r Crynwyr


Contact us:
stevie.k
@tiscali.co.uk


This project
is entirely
funded by the
Joseph Rowntree
Charitable Trust

Pennod 2: Y Prosiect

How can we make the meeting a community in which each person is accepted and nurtured, and strangers are welcome?....

Advices and Queries 18

Pa fodd y gallwn wneud y cwrdd yn gymuned lle caiff pob person ei dderbyn a’i faethu, a lle caiff dieithriaid groeso?...

Cynghorion a Holiadau 18

2.1 Ffurfio’r Prosiect

Mabwysiadodd Cyfarfod y Cyfeillion yng Nghymru y pryder a ddisgrifiwyd uchod yn ystod ei gyfarfod ar 24 Chwefror 2001, a gofynnodd i’w Bwyllgor Enwebiadau i ddod o hyd i grðp o bedwar Cyfaill, gan gynnwys cynrychiolydd o Bwyllgor Ymestyn i'r Gymuned CCNg, ac oedd yn adlewyrchu’r tri Chyfarfod Misol a gynhaliwyd yng Nghymru, er mwyn datblygu’r prosiect. Prif amcan y prosiect hwn oedd casglu gwybodaeth a fyddai’n helpu cyfarfodydd lleol i wella’u croeso a’u gwaith o ymestyn i gymuned i’r Cymry a grwpiau eraill trwy

  • ymchwilio’r rhesymau dros ein unrhywiaeth cymdeithasol
  • egluro’r problemau y mae cyfarfodydd yng Nghymru yn eu hwynebu yn eu gwaith ymestyn i’r gymuned
  • edrych am arfer da sy’n bodoli eisoes yng Nghymru ac mewn mannau eraill
  • ceisio nodi’r

Penodwyd y grðp canlynol:
  • Dai Jenkins (CM Henffordd a Chanolbarth Cymru; Aelod o Bwyllgor ymestyn i'r Gymuned CCNg)
  • Dafydd Jones (CM Gogledd Cymru; Clerc Cynorthwyol CCNg)
  • Stevie Krayer (CM De Cymru; Aelod o Bwyllgor Ymestyn i’r Gymuned QL)
  • Deborah Rowlands (CM De Cymru; Clerc QLCC)

Wedi hyn, penderfynodd y grðp gomisiynu David N Thomas* i ddarparu hyfforddiant a chyfraniad proffesiynol. Rhoddwyd syniad bras i Bwyllgor Ymestyn i’r Gymuned CCNg o’r prosiect, a chynhaliwyd y gwaith trwy ymgynghori â’r Pwyllgor ac mewn partneriaeth ag ef.

Roeddem yn gobeithio y byddai’r canfyddiadau’n ddefnyddiol i gyfarfodydd lleol a Phwyllgor Ymestyn i’r Gymuned CCNg wrth iddo ddatblygu ei waith ymestyn i’r gymuned yn y dyfodol. Roeddem yn gobeithio hefyd y byddai modd ymgorffori’r hyn y byddem yn ei ddysgu, ar draws CBP yn fwy cyffredinol, ac efallai y tu hwnt.

Gan fod adnoddau’r Cyfarfod yn gyfyngedig iawn, cyflwynwyd cais i Ymddiriedolaeth Elusennol Jospeh Rowntree, a benderfynodd ddyfarnu grant, gan alluogi i’r gwaith gychwyn ym mis Hydref 2001 a pharhau am gyfnod o ddeunaw mis.

Yn ôl i'r brig

2.2 “Croeso Ysbrydol”

Roedd y grðp yn dymuno rhoi teitl i’r prosiect a fyddai’n nodi’n eglur bod ein dadansoddiad o ‘ymestyn i’r gymuned’ yn mynd y tu hwnt i hysbysebu cyfarfodydd y Cyfeillion ac esbonio Crynwriaeth i bobl o’r tu allan, gan gynnwys popeth y gall y Crynwyr ei wneud i sicrhau y rhoddir croeso i bob chwiliwr ysbrydol a’u bod yn cael eu meithrin yn ysbrydol yn ein plith, beth bynnag yw eu hil, eu cenedligrwydd, eu hoedran, eu dosbarth neu agweddau eraill ar eu sefyllfa gymdeithasol. Roeddem o’r farn nad yw ymestyn i’r gymuned yn dod i ben wrth drothwy’r tþ cyfarfod.

Roedd rheswm arall dros ein teil. Mae rhai Cyfeillion yn teimlo’n anghysurus â’r term ‘ymestyn i’r gymuned’. Pan wnaethom holi pobl am eu teimladau am y term ‘croeso ysbrydol’, gwnaeth y rhan fwyaf ymateb trwy ddweud, er bod ymestyn i’r gymuned yn awgrymu “mynd allan a thynnu pobl i mewn oddi ar y stryd”, roedd croeso ysbrydol yn awgrymu “croesawu pobl pan fyddant yn dod atom”. Roeddem ni o’r farn bod ‘mynd allan i’r stryd’ (er nad oedd hyn yn golygu ‘tynnu pobl’!) yn rhan hanfodol o groeso ysbrydol, ond roeddem yn awyddus i egluro nad cam cyntaf ymgyrch recriwtio efengylaidd oedd y prosiect. Byddai syniad o’r fath yn anathema i ni, yn ogystal ag i fwyafrif y Cyfeillion eraill. Ein hysgogiad oedd ein cred bod gan Grynwriaeth apêl ar draws pob rhaniad cymdeithasol, a’n bod yn esgeuluso’r rhai a allai fod wedi dod o hyd i’w cartref ysbrydol ymhlith y Cyfeillion, naill ai oherwydd ein bod yn anweledig, neu wrth i ni roi’r argraff diofal

Yn ôl i'r brig

2.3 Y Gwaith

O’r cychwyn cyntaf, roedd yn ymddangos i ni y dylem wrando, wyneb yn wyneb pan fo hynny’n bosibl. Er mwyn cael darlun go iawn o’r sefyllfa bresennol, a chael cymaint o syniadau creadigol ag y bo modd ynghylch newid y darlun hwnnw er gwell, byddai angen i ni wrando ar dri grðp o bobl:

  • Crynwyr yng Nghymru
  • Crynwyr y tu allan i Gymru
  • Pobl nad ydynt yn Grynwyr yng Nghymru

Roeddem yn teimlo bod y grðp olaf yn arbennig o bwysig er mwyn i ni gael barn am lwyddiannau a methiannau ein croeso ysbrydol. Waeth pa mor fanwl yw ein trafodaethau ymysg ein gilydd, dim ond dyfalu y gallwn ei wneud ynghylch sut yr ystyrir y Crynwyr gan eraill. Mae ‘gweld ein hunain fel y mae eraill yn ein gweld’ yn anrheg go iawn.

I’r rhai sydd â diddordeb, rydym yn disgrifio’n methodoleg yn fanwl yn Atodiad A.

Yn ôl i'r brig

(i) Y Crynwyr yng Nghymru

Aethom ati i ddelio â’r elfen hon o'r gwaith mewn tair ffordd.

Fe ymwelom â chwe chyfarfod lleol er mwyn cynnal gweithdy manwl, a arweinwyd gan David Thomas a Stevie Krayer. (Mae 33 o gyfarfodydd lleol yng Nghymru, felly roedd y ffigwr hwn yn cynrychioli ychydig dan 20% ohonynt.) Dewisom ddau gyfarfod ym mhob cyfarfod misol a gynhelir yng Nghymru; tri yn y Dwyrain a thri yn y Gorllewin. Roedd gan dri ohonynt eu tþ cyfarfod eu hunain; roedd y lleill yn cyfarfod mewn amrywiaeth o leoliadau. Cafwyd cymysgedd o leoliadau trefol a gwledig. Roedd rhai yn cynnwys siaradwyr Cymraeg - nid oedd eraill yn cynnwys unrhyw siaradwyr Cymraeg. Roedd tri o'r cyfarfodydd wedi bodoli am lai na 30 o flynyddoedd. Roeddem yn gobeithio y byddai’r chwe chyfarfod hwn yn ddigon amrywiol i ddarparu sampl cynrychioliadol o gyfarfodydd ledled Cymru. Cynlluniwyd cyfres o ymarferion a fyddai’n darparu fframwaith sensitif a chyfrinachol i’r Cyfeillion gyfleu eu safbwyntiau, eu profiadau a’u hawgrymiadau. Gobeithiwyd y byddai’r rhain yn paratoi data ar gyfer y prosiect ac y byddent yn gadael cynllun gweithredu i’r cyfarfodydd a oedd yn cyfranogi, a fyddent yn gallu eu datblygu ymhellach os y dymunent.

Bu’r ymateb i’r gweithdai yn dda - cyfranogodd rhwng chwech ac un ar ddeg o bobl ar bob achlysur, a oedd yn cynrychioli cyfran uchel o’r Cyfeillion gweithredol yn y cyfarfodydd hynny. Gwnaethom adael holiaduron ym mhob cyfarfod er mwyn sicrhau bod y rhai nad oeddent yn gallu mynychu’r gweithdy yn cael cyfle i ystyried y materion a godwyd ac ymateb iddynt os y dymunent.

Ymgynghoriad ar wahân gyda Chyfeillion iau, gan ddefnyddio neu addasu rhai o'r ymarferion o weithdai’r oedolion. Cynhaliwyd un gweithdy o’r fath yn ystod penwythnos breswyl Cyfarfod y Cyfeillion yng Nghymru, a fynychwyd gan wyth o bobl ifanc yn eu harddegau, ac un arall gyda Grðp Cyswllt CM Henffordd a Chanolbarth Cymru, a fynychwyd gan bobl ifanc rhwng 11 ac 17 oed.

Fe ysgrifennom at glercod pob cyfarfod lleol yng Nghymru, yn estyn gwahoddiad i bob Cyfaill sôn am eu profiad a’u safbwyntiau. Ysbrydolwyd un cyfarfod i ddechrau datblygu ei raglen croeso ysbrydol ei hun, ac mae wedi cynnal tri chyfarfod hyd yn hyn.

Roedd y pedwerydd cyfle yn ddigwyddiad annisgwyl pan estynnwyd gwahoddiad i Stevie Krayer siarad am bwnc o’i dewis yng Nghyfarfod Misol Henffordd a Chanolbarth Cymru. Dewisodd gynnal gweithdy Croeso Ysbrydol arbennig.

Yn ôl i'r brig

(ii) Crynwyr y tu hwnt i Gymru

Roeddem yn awyddus i ddysgu sut mae Cyfeillion mewn mannau eraill wedi delio â heriau croeso ysbrydol mewn cymunedau amlddiwylliannol a dwyieithog/amlieithog. Roeddem yn gobeithio nad proses ‘un ffordd’ fyddai hon - wrth ystyried ein cwestiynau, gallai cyfarfodydd eraill gael achos i ystyried eu croeso ysbrydol eu hunain.

Fe ysgrifennom lythyr at The Friend a oedd yn estyn gwahoddiad i ddarllenwyr gyfrannu eu syniadau a’u profiadau i’r prosiect.

Fe ymwelom â Chyfeillion yng Ngogledd a De Iwerddon a’r Alban. Yn ogystal, gwnaethom gynnal grwpiau diddordeb arbennig mewn dau gynulliad o Gyfeillion Ewropeaidd. Roedd y cyntaf yn gyfarfod o Adran Ewropeaidd a’r Dwyrain Canol Pwyllgor Ymgynghori Byd-eang y Cyfeillion. Mynychwyd eu trafodaeth gan Gyfeillion o chwe Chyfarfod Blynyddol Ewropeaidd a oedd yn cynnwys Cyfeillion o Gernyw a’r Alban. Cyfranogodd dau Gyfaill Americanaidd, y maent bellach yn byw yn Lloegr (y bu un yn ymwneud â Quaker Quest), a chyd-glerc Quaker Life Outreach Committee, hefyd. Cynhaliwyd yr ail ddigwyddiad mewn cyfarfod “Ffin” blynyddol a gynhaliwyd yng Ngwlad Belg, ac a fynychwyd gan gynrychiolwyr o Wlad Belg, Ffrainc, yr Almaen, Lwcsembwrg a’r Iseldiroedd.

Yn ogystal, anfonom lythyrau a holiaduron at nifer o gyfarfodydd y tu hwnt i Ewrop, yr oeddem o’r farn y gallai fod ganddynt brofiadau defnyddiol i’w rhannu â ni.

Yn ôl i'r brig

(iii) Pobl yng Nghymru nad ydynt yn Grynwyr

Er mwyn cysylltu â phobl yn y gymuned ehangach a allai fod yn gallu dweud wrthym sut yr oeddem yn ymddangos o’r tu allan, anfonom lythyrau at gymaint o bapurau newydd Cymreig ag y bo modd, gan gynnwys y papurau bro Cymraeg niferus. Yn ogystal, ysgrifennom erthyglau yn The Western Mail ac yng nghylchgronau Planet a Carmarthenshire Life, gan fanteisio ar ben-blwydd Crynwriaeth yn 350 oed er mwyn ennyn diddordeb newyddiadurwyr.

Fe ofynnom i arolygwyr lleol a allent awgrymu enwau mynychwyr ac aelodau blaenorol, ac fe ysgrifennom at y rhain neu gysylltu â nhw drwy’r arolygwyr, gan esbonio am y prosiect a chynnig cyfweliad iddynt. Rhestrir y pynciau a drafodwyd mewn cyfweliadau yn Atodiad B.

Fe ddosbarthom holiadur i bymtheg o gynrychiolwyr o enwadau eraill a oedd yn aelodau o Fforwm Materion Cymreig CYTUN (Eglwysi Cytun yng Nghymru), er mwyn dysgu am brofiad y rhai mewn traddodiadau Cristnogol eraill. Caiff copi o’r adroddiad ei gynnwys yn Atodiad III.

* * * * * *

I gyd, mae dros 250 o unigolion wedi cyfrannu profiad a safbwyntiau i’r adroddiad. Ein bwriad gwreiddiol oedd adrodd canfyddiadau’r grwpiau gwahanol a ddisgrifiwyd uchod ar wahân. Ond yn y diwedd, roedd cymaint o debygrwydd rhwng ymatebion Crynwyr a’r rhai nad ydynt yn Grynwyr, yng Nghymru a thu hwnt i Gymru, ymhlith y rhai dros 19 oed neu’r rhai iau, penderfynwyd cyfuno’r holl elfennau gwahanol mewn un testun.

Yn ôl i'r brig