|
Y Crynwyr yng Nghymru Prosiect Croeso Ysbrydol
|
ENGLISH
Crynwyr Cymru
Croeso
Rhagair
Pennod 1
Pennod 2
Pennod 3
Pennod 4
Pennod 5
Pennod 6
Pennod 7
Pennod 8
Pennod 9
Pennod 10
Pennod 11
Atodiad I
Atodiad II
Atodiad III
Atodiad IV
Atodiad V
Atodiad VI
Cyfeiriadau
Cydnabyddiaeth
Rhestr o Dermau’r Crynwyr
Contact us:
stevie.k
@tiscali.co.uk
This project
is entirely
funded by the
Joseph Rowntree
Charitable Trust
|
Pennod 3: Ungnwd y Crynwyr
Quakerism need not be defined exclusively as white, Christian and middle-class, and such culture need not be adopted as the culture of those who are convinced.
Quaker Faith and Practice 10.13
3.1 Pa mor unrhyw ydym ni?
Ein tasg gyntaf oedd archwilio a oedd ein syniad o unrhywiaeth cymdeithasol yn gywir. Yn ein chwe gweithdy, fe wnaethom ofyn a oedd Cyfeillion o’r farn bod eu cyfarfod yn cynrychioli croestoriad o’r gymuned yr oeddent yn perthyn iddi, ac os nad oedd, pwy oedd ar goll. Cadarnhaodd ein holl gyfranwyr bron, yn y gweithdai ac mewn mannau eraill, bod grwpiau ac eithrio’r Eingl-Sacsoniaid dosbarth canol, addysgedig iawn, canol oed neu’n hþn, yn cael eu tangynrychioli ym mwyafrif ein cyfarfodydd. Dim ond llond dwrn a oedd yn teimlo nad oedd eu cyfarfod “yn gwneud yn rhy wael”, er y gallai fod yn gwneud yn well fyth. (Soniodd rhai nad y dosbarth gweithiol oedd ar goll yn unig; roedd pen arall y raddfa gymdeithasol yn cael eu tangynrychioli hefyd - y cyfoethog, yr “awdurdodau”, yr haenau proffesiynol uchaf, cyflogwyr.)
Gwnaethom ddarganfod bod cyfansoddiad cymdeithasol cyfarfodydd Ewropeaidd eraill yn debyg iawn i’r sefyllfa ym Mhrydain. Mae rhan fwyaf y cyfarfodydd wedi cael eu plannu gan “fewnfudwyr” Seisnig ac maent yn cynnwys nifer o Brydeinwyr a thramorwyr eraill, yn enwedig ym Mrwsel a Genefa, lle y mae gan symudiad y Crynwyr swyddfeydd yn ymwneud â’r Gymuned Ewropeaidd a’r Cenhedloedd Unedig. Dywedodd un Cyfaill o'r Swistir:
We attract exactly the group you are talking about. There is some lack of connection. Quakerism is not within the religious world view. People find it interesting but not for them, even if they are spiritually inclined.
Cadarnhaodd Cyfeillion yng Nghyfarfod Misol Dulyn bod rhan fwyaf eu cyfarfodydd lleol mewn ardaloedd dosbarth canol a’u bod yn denu pobl dosbarth canol, nad oeddent yn ymwneud â’r diwylliant brodorol, er eu bod yn Wyddelod. “How many of us are hurlers?” gofynnodd un Cyfaill. “How many Quakers are involved in the Gaelic culture?”
Yn ôl i'r brig
Ledled Prydain, mae cyfarfodydd y Crynwyr yn arddangos yr un math o unrhywiaeth ag y gwelir yng Nghymru. Cadarnhaodd Cyfeillion o’r Alban nad oedd eu cyfarfodydd yn “cross-sections of the surrounding community”. Fel yng Nghymru, mae nifer o ‘fewnfudwyr’ Seisnig ymhlith y Cyfeillion, ac fel arfer, maent yn perthyn i’r dosbarth canol ac yn addysgedig. Dywedodd un Cyfaill wrthym bod trefnydd angladdau lleol wedi dweud wrthi: “You don’t get many ordinary folk at your meetings.” Dywedodd Cyfaill o Gernyw:
The situation is similar to Wales: the Cornish consider themselves a separate nation, the geography is similar and the Quaker membership has similar proportions of indigenous people and incomers. This is because people come to retire. We have never felt we would make much impact on the indigenous people because the fishermen etc keep to their traditional churches. Probably a higher proportion are church/chapel attenders than is usual in England.
Roedd bron pob Cyfaill y gwnaethom glywed ganddynt, boed yng Nghymru neu y tu hwnt, yn teimlo bod hyn yn drueni a’i fod yn rhywbeth y dylent ymateb iddo fel rhan o’u tystiolaeth. Roedd yn ymddangos bod codi’r mater yn bwnc amserol i Gyfeillion ym mhob cwr o Gymru; roedd parodrwydd am ysgogiad newydd yn gyffredinol. “Help to show the path and we will walk it,” meddai un. Dim ond dau aelod a ddywedodd nad oedd ein hunrhywiaeth yn bwysig:
Nobody is missing; the people who are ready to be here, right now, are here.
In my experience, people who have an inclination towards the Quaker way, will find their own way to Friends.
Yn ystod trafodaeth ar dystiolaeth heddwch mewn penwythnos breswyl Cyfarfod y Cyfeillion yng Nghymru, a gynhaliwyd ddiwedd mis Awst 2002, gofynnodd un Cyfaill: “Does it matter if people are ‘Quakers without knowing it’, as long as they are doing the ‘good work’?” Atebodd un Cyfaill arall yn gadarn: “Yes - people have the right to the choice - how can they choose to be Quakers or not if they don’t know about us?” Mynegwyd y pwynt ein bod yn cael ein cefnogi yn ein tystiolaeth unigol gan ein grðp addoli (o leiaf pan fo cymuned y Crynwyr yn gweithio yn y ffordd gywir) a bod hwn yn rhywbeth y gallai eraill ei weld o fudd hefyd.
Yn ôl i'r brig
3.2 Y Bobl Ifanc Coll
Y grwpiau mawr eraill a nodwyd fel y rhai absennol ar y cyfan oedd y genhedlaeth dan 30 oed a theuluoedd ifanc. Ni chawsom lawer o gyfle i drafod ag oedolion ifanc, ond nid yw’n anodd dyfalu’r rhesymau dros eu habsenoldeb. Nid yw pobl yn eu hugeiniau wedi setlo mewn un man fel arfer. Mae ganddynt fywydau prysur gan astudio, gweithio, cymdeithasu a ffurfio perthynas bwysig. Nid yw datblygiad ysbrydol yn un o’u blaenoriaethau pellach fel arfer. Ac mae’n hawdd dychmygu na fyddai grðp o bobl wedi ymddeol ar y cyfan, sef y sefyllfa mewn nifer o gyfarfodydd y Crynwyr, yn ymddangos yn gydnaws â rhywun ifanc. Cwynodd un o’r ymatebwyr ifanc yn arolwg Adolygu Ymestyn i’r Gymuned Bywyd y Crynwyr, a oedd yn gweithio yn y sector cyhoeddus, nad oedd ei Gyfeillion yn y cyfarfod, a oedd wedi ymddeol yn bennaf, yn deall y trafferthion y mae gweithwyr yn y sector cyhoeddus yn eu hwynebu heddiw, neu roeddent yn falch nad oedd yn rhaid iddynt ofidio am “bethau o’r fath” mwyach.
O ran absenoldeb pobl ifanc dan 19 oed (a’u rhieni), nodwyd nifer o esboniadau posibl am hyn, a oedd yn amrywio o ‘the young think religion is uncool’ i “Sometimes it’s a bit boring” (asesiad Cyfaill iau). Nid oedd y cyfarfodydd eu hunain yn gallu rheoli rhai o’r ffactorau a nodwyd - yn arbennig, nifer fach o blant, yr ystod oedran eang ym mwyafrif y cyfarfodydd plant, a’r ffaith bod plant yn tyfu ac yn gadael y nyth, gan beri i’r bobl ifanc sydd ar ôl, deimlo ar eu pen eu hunain. Gall y ffactorau hyn fynd yn hunanbarhaol - rheswm da dros geisio denu teuluoedd ifanc a chynnig darpariaeth dda i’w plant. Os yw’r bobl ifanc yn fodlon mynychu cyfarfod, ac y rhoddir croeso iddynt yno, mae eu rhieni’n debygol o fynychu hefyd.
Fe roedd hwnna’n bwysig, roedd y ffaith fod y criw’n croesawu’r plentyn yn ogystal â fi. (It was important that the group welcomed my child as much as they did me.)
I think maybe because the children stopped coming ... I mean they are old enough now, but I didn’t particularly want them to be at home on their own on a Sunday morning.
Yn ddiddorol, roedd un cyfarfod yn mynd yn groes i’r arfer:
Children (young people) of our meeting brought friends from school to our Sunday class because they believed our ideas were in harmony with them.
Yn ôl i'r brig
At hynny, mae’n ymddangos bod yr ymwelwyr hyn wedi parhau i fynychu o bryd i’w gilydd. Mae’r profiad hwn yn awgrymu y gallai’r canlyniadau fod yn rhyfeddol os gall pobl ifanc oresgyn eu swildod dealladwy ynghylch ‘dod allan’ fel Crynwyr.
Mae cyfranogiad cymaint o oedolion ag y bo modd yng nghyfarfod y plant yn bwysig. Mae angen i bob oedolyn yn y cyfarfod fod yn ymwybodol o’r hyn y mae'r bobl ifanc yn ei wneud o leiaf. Mae’n ddifrifol i feddwl y gall Cyfeillion ifanc gael eu brifo gan ddifaterwch ymddangosiadol un oedolyn hyd yn oed, ac felly, maent yn wirioneddol gwerthfawrogi oedolion sy’n cymryd diddordeb. Pan wnaethom ofyn “Beth sy’n eich helpu i deimlo’ch bod yn cael eich cynnwys?”, soniodd nifer am y cyswllt gydag oedolion.
I felt included when I went upstairs and looked at some books and X told me a bit about one of them.
When someone stood up in a Quaker meeting and said how nice it was to have all these children [here].
Yn ôl i'r brig
Roedd rhan fwyaf y Crynwyr ifanc yn teimlo’u bod yn cael eu trin â pharch ac roeddent yn gwerthfawrogi’r ymdrechion a wnaethpwyd i'w helpu i deimlo’u bod yn rhan o’r peth. Cyfeiriodd un mai newyddion da eu cyfarfod oedd y ffaith bod “all the adults are willing to spend time with us”. Soniodd rhiant y gallai cyfarfod sy’n cael ei redeg gan rieni yn unig fod yn anfantais i'r bobl ifanc oherwydd maent yn aml yn dymuno bod ar wahân ac nid ydynt yn dymuno ymwneud â’r un gweithgareddau â’u rheini yn aml. Soniodd un rhiant am bwysigrwydd “teimlad teuluol”, a oedd yn golygu amrediad o grwpiau oedran yn y cyfarfod:
Dwy i wastad yn cofio un wraig, oedd hi yn ei nawdegau ac roedd hi’n cymryd cymaint o ddiddordeb yn y plant ac yn adnabod bob un wrth ei enw ... ac roedd hi’n bwysig iawn i’r plant hefyd fod nhw’n gallu gweld yr ystod oedran yma. (I always remember one woman who was in her nineties, and she took so much interest in the children and knew each of them by name ... and it was important to the children, too, to be able to see that age range.)
Mewn cynulliadau ehangach, megis grwpiau cyswllt, roedd y rhai a oedd yn teimlo’n unig ac yn ansicr ar y cychwyn, yn cael eu tynnu i mewn i’r grðp yn gyflym ac yn llwyddiannus. Mae pobl ifanc yn manteisio’n fawr iawn ar y cynulliadau hyn ac mae’n ymddangos eu bod yn eu mwynhau ac yn eu gwerthfawrogi. Fodd bynnag, mae’n ymddangos ei bod yn fwyfwy anodd dod o hyd i ddigon o oedolion sy’n fodlon helpu gyda’r bobl ifanc yn y cynulliadau mwy. Arferai Cyfarfod y Cyfeillion yng Nghymru drefnu gweithgareddau i blant a phobl ifanc yn ei holl gyfarfodydd, ond blinodd yr ychydig rai a oedd yn fodlon helpu, ac a oedd yn gallu helpu, yn y diwedd, ac roedd hi’n anodd dod o hyd i rai i gymryd eu lle. Erbyn hyn, croesawir plant a phobl ifanc yn ystod penwythnosau preswyl yn unig. Mae trafferthion tebyg yn codi mewn rhai cyfarfodydd misol.
Mae Quaker Life Children and Young People’s Committee wedi bod yn ceisio delio â’r materion hyn ers cryn amser. Maent wedi paratoi cyfoeth o adnoddau defnyddiol, gan gynnwys y pecyn Only Quaker er mwyn helpu pobl ifanc a allai fod yr unig Grynwyr yn eu hysgol, i deimlo nad ydynt ar eu pen eu hunain, ac i feithrin eu hyder wrth drafod eu ffydd. (Gallai Crynwyr hþn ymgorffori’r un agwedd; byddwn yn trafod ‘llais Crynwr hyderus’ yn Adran 5.4.) Fodd bynnag, nid yw’n hawdd datrys y problemau hyn. Mae angen i ni gofio bod pob enwad yn wynebu codiad ym mhroffil oedran eu cynulleidfaoedd.
Yn ôl i'r brig
3.3 “They had sealed their group with learning”
Gwnaethpwyd honiadau’n gyson ynghylch galwadau deallusol tybiedig ein hagwedd tuag at ffydd. Mae’n ymddangos yn rhesymol awgrymu y bydd nifer y bobl y maent yn debygol o gyrraedd eu cartref ysbrydol ymhlith y Crynwyr, yn gyfyngedig yn ôl pob tebyg, bod rhai pobl o’r farn bod tawelwch yn anghyffyrddus ac a fyddai’n colli’r dyrchafiad ysbrydol y mae cerddoriaeth, defodau a geiriau hoff yn eu rhoi. [Gweler Adran 4.1] Fodd bynnag, mae’n ymddangos bod nifer sylweddol o Gyfeillion yn mynd yn bellach na hyn. Mae eu sylwadau’n dangos lefel siomedig o snobyddiaeth diarwybod tuag at bobl o’r dosbarth gweithiol a’r Cymry:
In our meeting we have no working, Welsh, farmer. No fresher university student. No shop assistant, road sweeper, building site worker, university cleaner nor dinner lady. On the other hand, I wouldn’t expect to have some of these because Quaker worship is not ‘jolly’ (cheerful, noisy, picturesque) ...
Many of us Friends and Attenders are thinkers (lateral?) and gregarious, whereas most indigenous residents are followers and suspicious of ideas..... Quakerism will always have a fairly small following. It is quite an intellectual discipline, requiring the ability to concentrate for long periods, often in silence, and also requires the time and ability to read and absorb a lot of information....
I fod yn deg, dilynwyd y dyfyniad uchod ynghylch disgyblaeth ddeallusol (“intellectual discipline”) gan y sylw “there must be people of all nationalities and types for whom our way is right”. Y cwestiwn yw, a oes yn rhaid i chi fod wedi cael addysg prifysgol neu’n perthyn i’r dosbarth canol i feddwl yn annibynnol? Ai hyn yw gwir ystyr bod yn Grynwr? Dywedodd un Cyfaill:
“I sometimes wonder what the chap next to me at the Cardiff City football match would make of it all. Faith ought to work at all levels not just the cerebral one.”
Yn ôl i'r brig
A ydym yn creu proffwydoliaeth hunangyflawnol trwy greu rhwystr deallusrwydd yn ddiarwybod i ni a fyddai’n ffordd o atal y werin? Ai eraill sydd â phroblem oherwydd nad oes ganddynt yr offer ymenyddol - neu ai ni’n Crynwyr sydd wedi gorddealluso ein ffydd? Roedd rhai o’n hymatebwyr yn ceisio deall sut y mae neges syml George Fox am y Golau mewnol, wedi cael ei droi’n “ddisgyblaeth ddeallusol”. Roedd Cyfaill yn Belfast yn cwyno nad oedd wedi clywed unrhyw beth yn cael ei ddweud am Iesu Grist ac aeth ymlaen i annog y dylem ganolbwyntio ar fod yn sianelau i’r ysbryd glân ac ymddwyn mewn ffordd a fydd yn peri i eraill ddweud “Edrychwch sut y mae’r bobl hyn yn caru ei gilydd!”
Mae’n arfer cyffredin ymhlith y Cyfeillion i gwyno am y ffaith bod y pen yn rheoli’r galon yn ein bywydau a’n gweinidogaeth. Mae hwn yn fater sy’n mynd y tu hwnt i’n cylch gorchwyl, i wraidd ein ffordd o fyw fel Crynwyr, ond mae’n amlwg bod ganddo oblygiadau ar gyfer gwaith croeso ysbrydol. Nid ydym yn gwneud unrhyw argymhellion ond estynnwn wahoddiad i Gyfeillion ystyried yr hyn a ddywedwyd wrthym.
Ac eithrio’r cwestiwn ynghylch a ydym wedi sicrhau ei bod yn anodd darllen am lwybr y Crynwyr, a hynny’n ddiangen, ceir problem benodol a godir nifer o weithiau yn ystod ein harchwiliad, ynghylch arddull o drafod sy’n golygu bod y rhai llai addysgedig yn cael eu heithrio. Dywedodd Cyfaill a oedd wedi ymweld â nifer o Gyfarfodydd Blynyddol Ewropeaidd, am rai cyfarfodydd Crynwyr: “They had sealed their group with learning”. Dywedodd un cyn-fynychwr wrthym mewn ffordd eironig, bod lefel addysgol y Crynwyr “no doubt adds to the richness of the ministry as well as extending the vocabulary of those, like me, who did not have an academic early life!” Nid yw mor hawdd chwerthin am sylwadau fel y rhai canlynol:
When people at Quaker meetings do know me and realise I am not gifted intellectually or practically I detect a feeling of disappointment and they seem to exclude me from conversations.
[I felt excluded] when all contributions in Meeting made reference to poetry/classical texts/philosophy etc which I did not know - ie very ‘intellectual’ meetings of very ‘well-educated’ people.
Mae ysgolheictod a chwarae’r meddwl yn bleserau digon diniwed na ddylid disgwyl i unrhyw un eu haberthu. Ac nid ydym yn bwriadu awgrymu nad oes gan ddarllen ac astudio (preifat neu gyda’ch gilydd) unrhyw rôl wrth ddyfnhau ein bywydau ysbrydol. Ni allwn newid pwy ydym ni, ond gallwn newid ein hymddygiad. Mae’n fater o gwrteisi. Mae angen i ni fod yn ymwybodol y gallai trafodaeth ddysgedig ymddangos yn ymarfer dethol. Anogwn y Cyfeillion i geisio monitro’r iaith a ddefnyddiant i rannu eu profiadau a’u syniadau. Fel arall, mae perygl na rennir o gwbl.
Yn ôl i'r brig
|