Y Crynwyr yng Nghymru
Prosiect Croeso Ysbrydol

ENGLISH


Crynwyr Cymru


Croeso

Rhagair

Pennod 1

Pennod 2

Pennod 3

Pennod 4

Pennod 5

Pennod 6

Pennod 7

Pennod 8

Pennod 9

Pennod 10

Pennod 11

Atodiad I

Atodiad II

Atodiad III

Atodiad IV

Atodiad V

Atodiad VI

Cyfeiriadau

Cydnabyddiaeth

Rhestr o
Dermau’r Crynwyr


Contact us:
stevie.k
@tiscali.co.uk


This project
is entirely
funded by the
Joseph Rowntree
Charitable Trust

Pennod 4: ‘Amgylchiadau na allwn eu rheoli’

“I thocht ye were all deed!”

from Quakers in Scotland (1989)

4.1 Traddodiad a theyrngarwch

Pan wnaethom estyn gwahoddiad i Gyfeillion geisio esbonio ‘ungnwd y Crynwyr’, cynigiwyd esboniadau posibl amrywiol. Roedd nifer o’r farn nad oedd y bai i gyd ar y Crynwyr. Ystyriwyd bod y Cymry (ac yn wir, yr Albanwyr a’r Cernywiaid yn ôl ein hymatebwyr) yn deyrngar i’r capel neu’r eglwys y cawsant eu magu ynddynt, hyd yn oed os oeddent yn mynychu ar achlysuron arbennig yn unig. Capel oedd “ the place you go back to naturally for weddings and funerals”; roedd yn rhan hanfodol o fywyd y gymuned leol.

I siaradwyr Cymraeg yn enwedig, mae capel eu plentyndod yn gysylltiedig â’u hiaith a’u diwylliant brodorol, ac yn ei gynnal. Efallai na fydd grðp Saesneg yn bennaf yn siarad â nhw yn iaith eu profiad ysbrydol. Mae’n werth cofio, dan amodau Deddf Uno 1536, mai’r eglwys a ddaeth yr unig gylch cyhoeddus lle y caniatawyd yr iaith Gymraeg. Daeth y Cymry Cymraeg i ystyried mai’r Gymraeg oedd iaith ysbrydolrwydd. Mewn cyferbyniad, ystyriwyd mai Saesneg oedd yr iaith a oedd yn briodol i’r byd seciwlar - iaith masnach, y gyfraith a ffyniant byd-eang. Gwelir olion ystyriaethau o’r fath yn isganfyddol 500 o flynyddoedd yn ddiweddarach. Byddwn yn dychwelyd i drafod iaith yn adran 7.

Yn ôl i'r brig

Cadarnhawyd y ffaith bod ‘teyrngarwch’ yn ffactor go iawn gan sylwadau Cyfaill sy’n siarad Cymraeg:

We had an old elder in the Chapel, who had known me since I was a babe in arms. And even when I was married with children of my own ... I was still a little kid as far as he was concerned. I had spoken to my minister and told him that I was going to Quakers, and he said “Oh, I wish more of my flock would do the same thing...” which was his attitude on it. But the old elder, he would not have understood. So I kept on going and was a joint member, in fact ... until the old boy died.

Ar y llaw arall, mae’r ffaith i’r unigolyn hwn ddod yn Gyfaill er gwaethaf hen deyrngarwch yn ymddangos nad oes yn rhaid i hyn fod yn rhwystr i’r rhai sy’n cael eu denu i ffordd y Crynwyr. Gall rhywun gymryd yn rhy bell y syniad cyffyrddus bod gwreiddiau’r Cymry yn niwylliant y capel yn rhy ddwfn fel na fyddai unrhyw beth arall yn gallu eu denu. Ceir perygl o greu stereoteipiau, fel y Cyfeillion a gyfeiriodd at “Welsh love of music” fel rhwystr posibl.

Gallai hoffter am ddefodau a litwrgi fod yn fater cysylltiedig. Honnodd nifer o’n hymatebwyr fod mwyafrif y bobl sydd ag ymdeimlad crefyddol yn teimlo angen am sicrwydd, awdurdod a chredoau a litwrgïau cyfarwydd, ac na fyddai’r amheuaeth a’r ymdrech sy’n rhan anorfod o ryddid diwinyddol y Crynwyr o gymorth iddynt. Mae’r canlynol yn enghraifft o sylw nodweddiadol:

I suspect it may never attract even a significant minority. Quakerism fails to give a number of things that many people seem to need: answers, a form of worship, leadership....

Gallai hwn fod yn bryder i’r rhai a hoffai weld ‘llawer o bobl wedi’u casglu’. Pryder y prosiect, fodd bynnag, yw nad ydym yn esgeuluso nac yn eithrio unrhyw ddarpar Grynwyr oherwydd eu hunaniaeth cymdeithasol.

Yn ôl i'r brig

4.2 Y gafael cadarn seciwlar

Mewn cyferbyniad llwyr, ffactor allanol arall a awgrymwyd oedd ein cymdeithas seciwlar o weithio’n slafaidd, yn ogystal â ffordd o fyw materol a chul nifer o bobl:

Working Dads and Mums have busy weekends.

Sunday no longer a day of rest, but a day for visiting the supermarket, garden centre, out-of-town stores and leisure facilities.

I don’t know why there is not a more balanced make-up, but it seems to be a problem with Christian congregations in general.


Ni all yr astudiaeth hon ddatrys problemau oriau gwaith hir, penwythnosau prysur ac ymrwymiadau teuluol. Ac er na ellir dadlau nad yw materoliaeth ac arwynebolrwydd yn nodweddion amlwg cymdeithas ym Mhrydain, byddem yn cyfeirio at yr arolygon niferus sy’n awgrymu bod oddeutu tri chwarter y boblogaeth yn ymwybodol o ochr ysbrydol yn eu bywydau, ac mae ganddynt ddiddordeb ynddo. O ran profiadau rhan fwyaf yr enwadau o ostyngiad mewn presenoldeb, nid ydym o reidrwydd yn ystyried bod hyn yn arwydd nad oes gan grefydd ddyfodol. Credwn bod newyn ysbrydol eang yn bodoli dan y drefn o addoli Mamon, ac y gallai rhyddid cymharol Crynwriaeth o athrawiaeth a defodau ein gwneud yn ddeniadol ac o gymorth i’r rhai sy'n gweld na all grefyddau trefnedig confensiynol eu bodloni.

Yn ôl i'r brig

4.3 Canfyddiadau a chamganfyddiadau

Mae Cyfeillion sy’n sôn am eu Crynwriaeth - boed hynny yng Nghymru neu mewn mannau eraill - yn gyfarwydd â chlywed yr ymateb: “Crynwr? Beth yw hwnnw?” Mae gan y rhai sydd wedi clywed am Grynwyr yr argraff - a achosir efallai gan y llun ar y pecyn Quaker Oats - ein bod ni naill ai wedi darfod ganrifoedd yn ôl, neu’n bod wedi cadw traddodiadau yr oes o’r blaen. (Mae’r graddau y mae’r olaf yn gamgymeriad mewn gwirionedd yn werth ei ystyried am ychydig funudau efallai!) Codwyd ymwybyddiaeth ymhlith siaradwyr Cymraeg yn ddiweddar gan addasiad o nofel Marion Eames, Y Stafell Ddirgel, a ddarlledwyd ar S4C, ond gallai fod wedi atgyfnerthu’r argraff bod Crynwyr yn sect hynafol a ddaeth i ben gryn amser yn ôl. Fe wnaethom ofyn i Gyfeillion, gan gynnwys Cyfeillion ifanc, pa argraff sydd gan y byd ohonom yn eu barn nhw. Roedd eu hymatebion yn cynnwys y canlynol:

  • Like Amish - ‘Why do you use electricity?’
  • Equated with Jehovah’s Witnesses etc
  • People still think of Quakers as inbred folk in silly hats.
  • Quakers don’t drink or have fun - really evangelical.

Dywedodd un ferch wrthym, nad yw’n Grynwr, ei bod yn arfer credu bod yn rhaid i chi gael eich geni i’r Gymdeithas. Roedd hi’n credu bod nifer o bobl yn credu hyn hefyd. Byddai hyn yn ddealladwy yng Ngogledd Iwerddon er enghraifft, lle y mae rhan fwyaf y Cyfeillion yn cael eu geni a’u magu’n Grynwyr, ond mae’n od mewn gwlad lle y mae tri chwarter y Crynwyr wedi ymuno â’r Gymdeithas fel oedolion. Gallai hyn fod yn argraff sy’n parhau o’r gorffennol, pan oedd Crynwyr yn cael eu diarddel am ‘briodi y tu allan’. Neu gallai fod yn enghraifft arall o gymysgu’r Crynwyr gyda sectau eraill, megis yr Amishiaid.

Yn ôl i'r brig

Fe ofynnom i gynrychiolwyr enwadau eraill sy’n gwasanaethu ar Fforwm Materion Cymreig CYTUN am eu hargraff nhw. O’r naw a ymatebodd, roedd tri wedi mynychu un o gyfarfodydd y Crynwyr, roedd un wedi mynychu priodas i Grynwyr ac roedd un wedi gweld enghraifft o addoli yn null y Crynwyr yn un o gyfarfodydd CYTUN. Ar y cyfan, roedd eu syniad o Grynwyr yn uchel - didwyll, ystyriol ac ysbryd hael oedd rhai o’r disgrifiadau. Dyma sylw nodweddiadol:

Fe’u caf yn bobl o argyhoeddiad dwfn ynglyn â materion megis heddwch a chyfiawnder ac o ysbrydoledd dwfn a didwyll. (I find them to be a people of deep conviction on matters such as peace and justice, and having a deep and sincere spirituality.)

Roedd yn ymddangos bod pobl yn cymryd bod Crynwyr yn “derbyn Iesu Grist” yn yr un ffordd ag enwadau eraill. Cawsom ein disgrifio gan un ymatebwraig, a oedd yn ymddangos ei bod yn ein hadnabod yn well, fel “a caring, liberal, middle-class, slightly ‘hippy’ and highly intellectual group”. I'r cwestiwn “Sut gaiff Crynwyr eu hystyried yn y gymuned yn gyffredinol?” atebodd yr unigolyn hwn “I suspect they are not.” Cadarnhawyd hyn gan ran fwyaf y cynrychiolwyr enwadol eraill. Dywedodd un:

Ceir delwedd ohonynt yn bobl oddefol - ac am nad oes ganddynt hunaniaeth Gymreig - nid ydynt yn amlwg fel llais cymdeithasol yng Nghymru. (They are perceived as being tolerant. Since they do not have a Welsh identity they are not obvious as a social influence in Wales.)

Soniodd un arall am ffordd gymharol frawychus y gallai eraill fod yn ein hystyried:

Quakers are a very independent, self-contained (secretive) group whose strength is the value they place on silence and doing good works without seeking publicity or self-promotion..... I would think that the community at large has no view of Quakers and would not recognize the expression ‘Friends’. The better-informed might know of Quaker schools and good works by well-known chocolate companies. As a well-travelled ex-journalist who is as ignorant of Quakers and their works as this, I have to conclude that Quakers do not relate to their surrounding community - perhaps deliberately. I had always supposed that they valued this segregation.

Yn fyr, yng Nghymru, mae’r rhan fwyaf o bobl o’r farn bod y symudiad yn un ar wahân, ac yn rhywbeth estron a drawsblannwyd o ochr draw Clawdd Offa. Wedi i bobl ffurfio’r farn hon amdanom, mae’n anodd newid yr argraff - yn enwedig o ystyried ei fod yn wir i raddau. Felly, daw rhywfath o gylch dieflig i’r amlwg. Mae hwn yn fater y bydd angen i ni ddelio ag ef.

Yn ôl i'r brig

Pan ofynnir i bobl am yr hyn y maent yn ei wybod am Grynwyr, maent yn aml yn ateb “Wel, maen nhw’n dda iawn.” Yn Ne Cymru, caiff y Crynwyr eu cofio am eu gwaith cymorth yn ystod y Dirwasgiad yn y 1930au. Gall yr ymdrech i helpu pobl fod yn annymunol i nifer, yn enwedig pan gânt eu hystyried law yn llaw ag ystyriaethau am y Saeson:

Because [the English] are very good at that, very organised and stuff, and will take a lead, whereas the Cymreigwyr tend to step back and to let somebody else do it.... and that can be misunderstood. You know, it can be totally well-intentioned, but it’s a stereotype of, ‘Oh they come over here and organise us,’ type of thing.

Gellir gweld ychydig bach o gysur yn y ffaith nad y Crynwyr yw’r unig grðp i gael eu hosgoi oherwydd eu delwedd Saesneg/gwneud pethau da. Cynhaliwyd cynhadledd ychydig amser yn ôl yng Ngheredigion i gymdeithasau gwirfoddol lleol, er mwyn iddynt ystyried sut i ddelio â diffyg parodrwydd y rhai sy’n siarad Cymraeg, i wirfoddoli mewn sir lle y mae hanner y boblogaeth yn siarad Cymraeg. Roedd yr asiantaethau hynny yn teimlo’u bod yn cael eu rhwystro rhag bodloni anghenion eu cleientiaid sy’n siarad Cymraeg, a oedd yn cael eu gorfodi i drafod materion cymhleth neu faterion personol sensitif mewn iaith arall nad oedd yn famiaith iddynt.

Bydd nifer o Gyfeillion yn gyfarwydd iawn â’r enw da sydd gan y Crynwyr yn y gymuned, o fod yn bobl ‘dda’. Gall hyn fod yn frawychus iawn i’r ‘pechadur’ cyffredin! Gallai fod yn gyfrifol yn rhannol am y ffaith ein bod yn cael ein gosod ar wahân i weddill y byd, ychydig yn debyg i fynachod neu leianod. (Soniodd un ymatebydd ein bod yn ymddangos yn “sexless”!). Er y gwyddom nad ydym mor dda â hynny mewn gwirionedd, gallai mynychwyr sy’n gweld y safonau uchel a osodwn ar gyfer ein hunain, yn gymaint o straen, fel eu bod yn gadael. Dywedodd un cyn-fynychwr, a adawodd ac a ymunodd â’r Eglwys Gatholig wedi hynny:

I wasn’t leading a madly immoral life, but I think there’s a kind of straight up-and-downness about Quakers, a kind of goodness about Quakers, which if you’re living in a world which is in many ways more confused and more messy it doesn’t always make it easy to kind of join in and to feel part of it, because you’re living in a very different life.

Cytunwn â'r Cyfaill o’r Alban a ddywedodd:

We need the courage to portray ourselves warts and all.

Mae’n ymddangos nad oes modd gwadu bod rhwystrau’n bodoli i’n hatal rhag ymestyn yn effeithiol i'r gymuned, na allwn eu rheoli. Nid ydym wedi’n hargyhoeddi, fodd bynnag, y dylem ddigalonni am hyn neu deimlo’n hunanfodlon amdano. Mae’n ymddangos bod nifer o Gyfeillion yn rhannu’r safbwynt hwn; yn yr adran nesaf, byddwn yn nodi’r hyn y mae cyfarfodydd yn ei wneud er mwyn ‘codi’r proffil’, yn ogystal â’r pethau eraill y gellir eu gwneud.

Yn ôl i'r brig