|
Y Crynwyr yng Nghymru Prosiect Croeso Ysbrydol
|
ENGLISH
Crynwyr Cymru
Croeso
Rhagair
Pennod 1
Pennod 2
Pennod 3
Pennod 4
Pennod 5
Pennod 6
Pennod 7
Pennod 8
Pennod 9
Pennod 10
Pennod 11
Atodiad I
Atodiad II
Atodiad III
Atodiad IV
Atodiad V
Atodiad VI
Cyfeiriadau
Cydnabyddiaeth
Rhestr o Dermau’r Crynwyr
Contact us:
stevie.k
@tiscali.co.uk
This project
is entirely
funded by the
Joseph Rowntree
Charitable Trust
|
Pennod 5: Rhoi’n golau ar bolyn lamp
A growing confident Quaker voice reflects a confident Quaker heart, rooted in the depths of our Meetings for Worship.
Cyfarfod i Ddioddefiannau, 8 Mehefin 2002
5.1 Pa waith ymestyn i'r gymuned a wneir gan gyfarfodydd?
Pan wnaethom ofyn i gyfarfodydd nodi’r hyn yr oeddent wedi’i wneud hyd yn hyn o ran croeso ysbrydol, roedd rhan fwyaf yr ymatebion yn ymwneud ag ymestyn i’r gymuned, yn yr ystyr traddodiadol. Mae gennym wybodaeth o ddeuddeg cyfarfod lleol am y mater hwn. Mae ystod y gweithgareddau yn eang iawn ac mae cyfanswm y gwaith ymestyn i’r gymuned a wneir yn amrywio’n fawr o gyfarfod i gyfarfod. Mae rhan fwyaf y cyfarfodydd (neu unigolion ynddynt) yn cynnwys rhyw fath o weithgarwch ecwmenaidd. Roedd gan un gyfarfod wefan, cysylltiadau helaeth yn y gymuned, tþ cyfarfod a ddefnyddir yn llawn, hysbysebion ac adroddiadau rheolaidd yn y papur newydd. Roedd un arall yn hysbysebu mewn cylchgronau plwyf ac ar hysbysfwrdd eglur, gydag arwydd yn y stryd. (Roedd y cyfarfod hwn wedi methu â denu unrhyw ymwelwyr newydd ers nifer o flynyddoedd.) Yn ein gweithdai, roedd y Cyfeillion yn synnu pan wnaethant ddechrau rhestru’r gwaith ymestyn i’r gymuned a wnânt - fel arfer, roedd yn llawer mwy helaeth ac amrywiol nag yr oeddent wedi sylweddoli.
Mae Cyfeillion y tu hwnt i Gymru hefyd yn ymdrechu mewn amrywiaeth o ffyrdd i hysbysebu eu presenoldeb. Yn Dunblane yn yr Alban, er enghraifft, mae Cyfeillion yn ymuno ag eglwysi eraill ac yn ymweld â phob newydd-ddyfodiad i’r ardal, gan roi pecyn iddynt sy’n cynnwys mapiau lleol, gwybodaeth am fannau addoli, amserlenni bysys a llawer o wybodaeth ddefnyddiol arall. Yn Iwerddon a’r Alban, cyfeiriwyd at yr Arddangosfa Tapestri fel adnodd gwerthfawr. Mae Cyfarfod Blynyddol Iwerddon wedi penodi Cyfaill i ddelio ag ymholiadau, ac mae Cyfarfod Cyffredinol yr Alban wedi gwneud yr un peth; roedd y ddau’n cadarnhau pwysigrwydd cael cyswllt lleol (neu ranbarthol o leiaf) ar ddeunydd cyhoeddusrwydd. Mae gan yr Alban ei wefan ei hun hefyd, a gaiff ei chynnal a’i chadw’n dda.
Yn ôl i'r brig
Mae’n ymddangos bod rhan fwyaf y cyfarfodydd yn hysbysebu eu presenoldeb ac amserau eu cyfarfodydd yn lleol mewn rhyw ffordd, ac mae nifer yn rhoi cynnig ar amrywiaeth fawr o ddulliau. O ystyried lefel yr anwybodaeth a’r camddealltwriaeth o Grynwriaeth ymhlith y boblogaeth, fodd bynnag, mae’n debygol nad yw hi’n ddigon i nodi manylion y lleoliad a’r amser yn unig, oni bai eich bod yn dymuno denu’r rhai sy’n Grynwyr eisoes neu sy’n gwybod am y Cyfeillion yn unig. Yn dilyn erthygl sympathetig ym mhapur newydd The Guardian am y pen-blwydd yn 350 oed, a oedd yn cynnwys hysbyseb a thocyn ymateb hefyd, cafodd yr Adran Ymestyn i'r Gymuned yn Friends House 150 o ymholiadau, a oedd yn record. Gyda’i gilydd, mae Friends House wedi cael cymaint â dwywaith yn fwy o ymholiadau o ganlyniad i’r cyhoeddusrwydd ynghylch y pen-blwydd yn 350. Mae’r ymddangos bod y foeswers yn amlwg.
Fel erioed, mae’r ymestyn mwyaf effeithiol i’r gymuned yn aml yn bersonol - parodrwydd Cyfeillion unigol i sôn am eu hymlyniad crefyddol, ateb cwestiynau, estyn gwahoddiad i ffrindiau personol i ‘brofi’ cyfarfod addoli neu gyfranogi mewn trafodaeth. Mae arolwg Mae’r Gân yn y Galon yn awgrymu bod oddeutu hanner y Cyfeillion nad oedd ganddynt unrhyw gyswllt teuluol â Chrynwriaeth, wedi ymuno â’r Crynwyr oherwydd cyswllt personol, ac roedd y gyfran honno’n cyd-fynd â chanfyddiadau Adolygiad Ymestyn i'r Gymuned Quaker Life. Roedd cyfarfod yng Ngogledd Cymru o’r farn mai un Cyfaill rhadlon a oedd yn gyfrifol am rhan fwyaf ei dwf yn ddiweddar. Clywsom hefyd gan Gyfaill yn Sweden am y trawsnewid ym mywyd a thwf ei chyfarfod o ganlyniad i Gyfaill unigol a oedd wedi mynychu cwrs mewn gwlad dramor, a dychwelyd gyda nifer o syniadau da.
Yn ein chwe gweithdy, fe wnaethom ofyn i gyfarfodydd restru eu cyflawniadau ymestyn i'r gymuned/croeso ysbrydol. Mae goroesi yn gyflawniad sylfaenol hanfodol, ac yn un y sonnir amdano yn gyson. Mewn rhai achosion, roedd y cyfarfod wedi bod yn mynd yn ei flaen ers degawdau, ac roedd eraill yn parhau i gael eu sefydlu. Er gwaethaf yr holl ffactorau a ddisgrifiwyd uchod, sy’n cyfrannu at ein proffil isel, roedd mwyafrif y cyfarfodydd wedi llwyddo i ddenu o leiaf rhai newydd-ddyfodiaid. Yn ogystal â’r cryfder i barhau, gwelwyd bodlonrwydd tawel bod y Crynwyr wedi datblygu enw da yn lleol am “ddibynadwyedd, argaeledd”. Adroddodd un Cyfaill “People seem to trust us and respect us.” Diolch i’r Crynwyr, cawsom wybod, bod nifer o grwpiau lleol a oedd yn ymwneud â materion megis heddwch, Jiwbilî 2000, Symudiad Datblygiad y Byd a chymorth i geiswyr lloches, wedi parhau, ac y byddent wedi darfod fel arall efallai. Nodwyd bod llawer o weithgarwch y Crynwyr yn cael ei wneud er mwyn achos da; ymestyn i’r gymuned oedd rhan o’r diben yn unig - neu’n hytrach, yn rhan o’r canlyniad. Mae’r Cyfeillion yn parhau i fod wedi ymrwymo’n fawr i adael i’w bywydau siarad.
Yn ôl i'r brig
Rydym wedi ychwanegu rhestrau o’r hyn a wneir eisoes a syniadau pellach a awgrymwyd gan Gyfeillion yn ein chwe gweithdy. Gobeithiwn y bydd y rhestrau hyn yn adnodd defnyddiol i gyfarfodydd lleol wrth iddynt ystyried datblygu eu croeso ysbrydol. [Atodiad VI]
Cyn cynllunio ymgyrch i godi proffil, fodd bynnag, bydd angen i gyfarfodydd ystyried yn onest a ydynt yn barod i ymdopi â llwyddiant! I rai arsylwyr, mae’n ymddangos mai’r rheswm anymwybodol (ac ymwybodol weithiau) pam nad yw cyfarfodydd yn rhoi gymaint o’u hegni i waith ymestyn i’r gymuned ag y gallent, yw’r ffaith nad ydynt eisiau mewnlifiad o fewnfudwyr mewn gwirionedd. Ceir ofnau y bydd newydd-ddyfodiaid yn defnyddio gormod o egni; y byddant yn gwanhau cymeriad hanfodol Crynwriaeth. Er hyn, mae nifer o gyfarfodydd yn teimlo’r angen am “waed newydd” - ac nid yn unig o ran rhagor o aelodau i lenwi’r holl benodiadau teirblynyddol hynny. Yn y cyfarfodydd y gwnaethom siarad â nhw, roedd yr ysbryd yn fodlon fel arfer, ond roedd yn ymddangos bod angen yr adfywhau cyn y gellir wynebu’r ymdrech i ddenu gwaed newydd. Yn ôl pob golwg, mae’n ymddangos bod gennym gylch dieflig arall, ac mae egni a blaenoriaethau’n bynciau pwysig dros ben. [Gweler paragraff 6.1 isod)]
Teimlwn y gallai’r cylch dieflig fynd yn gylch rhinweddol. Awgrymwn mai mater o fyw mewn ffordd anturus ydyw yn ei hanfod. Unwaith y byddwn wedi datblygu ‘llais Crynwyr hyderus’, gall yr ymdrech i gyfleu ein ffydd i eraill, fod yn ysgogol ac yn werth ei wneud. Mae newydd-ddyfodiaid yn dod ag egni gyda nhw, ac maent yn aml yn barod i gyfrannu ac yn awyddus i wneud hynny. Mae rhannu’n ffydd fel rhoi unrhyw rodd - bydd yr un sy’n rhoi yn cael cymaint o bleser â’r un sy’n derbyn. Cadarnhawyd hyn gan sylwadau a wnaethpwyd mewn rhai o’r gweithdai: “Outreach is good for the ‘outreachers’ at least as much as for the ‘outreached’” oedd un sylw. O ran newid ‘cymeriad sylfaenol Crynwriaeth’, ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau ein bod wedi hesbonio’n dull gweithredu yn hytrach na chroesi bysedd a gobeithio y bydd greddf newydd-ddyfodiaid yn peri iddynt gydymffurfio. Ym mharagraff 8.4 isod, rydym yn trafod sut yr ydym yn rhannu’n ffydd a’n harfer gyda mynychwyr yn fanylach.
Ni fyddem yn dymuno gosod her sy’n llawer yn rhy uchelgeisiol i Gyfeillion y mae baich ar eu hysgwyddau eisoes. Ac ni ddylem ychwaith geisio plesio pawb bob amser. Gofynnodd un Cyfaill, mewn ffordd gymharol sur, “Are we sure we really want all these missing groups? We’d have to completely change ourselves to attract some of them!” Mae Cyfaill hþn wedi awgrymu y bydd yn rhaid i ni ystyried grwpiau ‘targed’ efallai; gallai hyn fod yn ddull gweithredu defnyddiol ac mae’n werth ei ystyried.
Argymhellwn fod cyfarfodydd lleol yn canolbwyntio ar sicrhau bod Crynwriaeth yn fwy adnabyddus ac yn cael ei ddeall yn eu cymunedau, gan fanteisio ar yr adnoddau ymestyn i’r gymuned sydd ar gael gan CBP a CCNg, a’r syniadau a restrir yn Atodiad IV.
Yn Adran 9, rydym yn cynnwys argymhellion ynghylch y ffyrdd y gallai Cyfarfod y Cyfeillion yng Nghymru a chyrff eraill gefnogi gwaith lleol i ymestyn i’r gymuned.
Yn ôl i'r brig
5.2 “The brother whom he has seen”
Os nad yw’n cymunedau lleol yn ein hadnabod ac yn ein deall, mae’n ymddangos bod hyn yn wir am faint yr ydym ni’n adnabod ac yn deall ein cymunedau lleol. Cawsom wybod bod Crynwyr yn tueddu i ystyried y “materion mawr” ar y cyfan, yn enwedig y rhai rhyngwladol - rhyfel a heddwch, dyled y trydydd byd ac ati. Disgrifiodd un o’r rhai a gyfwelwyd, ei chyfarfod fel un “disembodied”:
I go there and I could be anywhere in the world, which in one way is very good, but in another way I think it’s important to relate Quakerism to our lives every day - Monday to Saturday as well as Sunday - and to everybody else in the community, either Quakers or non-Quakers, because it’s also about how you actually lead your life and relate to other people, and that’s the bit that seems to be missing, somehow.
Dyma sylw gan rywun arall a gyfwelwyd:
I think they are very involved in the peace side of things and the social justice and all that sort of thing .... I’m just wondering whether actually seeing them in action locally, rather than on an international or, you know, big city type scheme ... might have more influence on people.
Ac ysgrifennodd un Cyfaill o Gymru, sy’n byw yn Lloegr bellach:
I would say that Quakerism in Wales will only survive if they gain more real integration with the host culture and language.... My experience .... was that, if you get ‘stuck in’ and contributed something, there was a place for you ...Quakerism needs to get a more Welsh orientated communications system. More than that, they could do with adopting the Welsh calendar. Eisteddfodau - the National, the Urdd, the Intercollege - form the turning points of the Welsh year.
Yn ôl i'r brig
In some ways this is a situation which has arisen unavoidably from circumstances. As we pointed out in our Introduction, many Quakers in Wales, and Quaker meetings too, are relative newcomers to their vicinity. The two of us who visited Lurgan Meeting in Northern Ireland had to admit to feeling quite envious of Lurgan Friends’ rootedness and recognition in the local community. But then Lurgan Meeting is very nearly as old as Quakerism itself and despite earlier persecutions and emigrations has enjoyed an unbroken presence in the area - unlike most Welsh meetings. Youth is certainly part of MFW’s problem, and time will provide a cure for that failing.
However, in Wales the respective lives of the indigenous and incomer communities often run side-by-side, usually amicably but quite separately. If we wish to be as established and integrated a feature of the landscape as Lurgan Meeting, we will need to make a positive effort at bridge building. This is not only a matter of outreach, but also of witness. Many Welsh communities are suffering economic hardship. There is a sense of marginalisation, due to the influx of numbers of newcomers. This is not the place to go into detail about the problems, but Quakers coming from England might wish to be part of the solution rather than part of the problem, by entering sensitively into the concerns of their locality and looking for ways of offering practical support as we have so often done in other contexts.
Mewn rhai ffyrdd, mae hon yn sefyllfa nad oedd modd ei hosgoi oherwydd amgylchiadau. Fel y nodwyd gennym yn ein Cyflwyniad, mae nifer o Grynwyr yng Nghymru, a chyfarfodydd Crynwyr hefyd, yn newydd-ddyfodiaid i’w hardal. Roedd yn rhaid i’r ddau ohonom a wnaeth ymweld â Chyfarfod Lurgan yng Ngogledd Iwerddon gyfaddef ein bod yn teimlo’n eithaf cenfigennus o ymdeimlad o berthyn Cyfeillion Lurgan a’r gydnabyddiaeth a gânt yn y gymuned leol. Ond mae Cyfarfod Lurgan bron mor hen â Chrynwriaeth ei hun, ac er gwaethaf erlyn ac allfudo cynharach, mae wedi mwynhau presenoldeb di-dor yn yr ardal - yn wahanol i ran fwyaf y cyfarfodydd yng Nghymru. Heb os nac oni bai, mae ieuenctid yn rhan o broblem CCNg, a bydd amser yn datrys y broblem honno.
Yn ôl i'r brig
Fodd bynnag, yng Nghymru, mae bywydau priodol y cymunedau brodorol a chymunedau’r mewnfudwyr yn aml yn cyd-fyw mewn ffordd gyfeillgar fel arfer, ond ar wahân i bob pwrpas. Os ydym yn dymuno bod yn nodwedd integredig a sefydledig o’r tirlun fel Cyfarfod Lurgan, bydd angen i ni wneud ymdrech gadarnhaol i adeiladu pontydd. Nid mater o ymestyn i’r gymuned yw hyn yn unig, ond mae’n ymwneud â thystiolaeth hefyd. Mae nifer o gymunedau yng Nghymru yn dioddef caledi economaidd. Ceir ymdeimlad o gael eu gwthio i’r cyrion oherwydd dyfodiad llawer o fewnfudwyr. Nid dyma’r adeg i sôn am y problemau’n fanwl, ond gallai Crynwyr sy’n dod o Loegr fod yn dymuno bod yn rhan o’r ateb yn hytrach na’r broblem, trwy ystyried pryderon eu hardaloedd lleol mewn ffordd sensitif ac ystyried ffyrdd o gynnig cymorth ymarferol, fel yr ydym wedi gwneud mor aml mewn cyd-destunau eraill.
Un ffactor sy’n cymhlethu pethau yw daearyddiaeth. Pan fyddwn yn cyfeirio at ein cymuned ‘leol’, at bwy yr ydym yn cyfeirio? Yn aml, caiff Crynwyr eu gwasgaru ar draws ardal eang (yn enwedig mewn cyfarfodydd gwledig) ac nid ydynt yn byw neu’n gweithio hyd yn oed yn yr un ardal leol ag y maent yn cyfarfod ynddi i addoli. Felly, yn aml, nid ydym yn cyfeirio at un cymuned yn unig. Hyd yn oed pe byddem, nid oes llawer o gymunedau modern yn rhai hollol unrhyw. Ac mae bod ar wasgar yn ei gwneud hi’n anodd datblygu hunaniaeth leol neu hyd yn oed ddod at ein gilydd yn rheolaidd am resymau ac eithrio’r cyfarfod addoli rheolaidd.
Mae’n demtasiwn i esgusodi ein hunain, gan freuddwydio am oes yn y dyfodol pan fydd cymaint ohonom fel y bydd gennym lawer yn fwy o gyfarfodydd efallai, a fydd yn rhan o gymuned go iawn ac a fydd yn denu eu haelodau o’r gymuned honno. Neu fel arall i ddweud nad oes gobaith - os ydych yn dymuno sicrhau hynny, ni ddylech ddechrau fan hyn! Er hyn, dyma’n sefyllfa ar hyn o bryd. Ac mae’n ymddangos i ni, heb geryddu’n hunain ormod amdano, y dylid cychwyn ar y gwaith mewn rhyw ffordd. Neu a ydym i ateb i Dduw mewn pobl sy’n bell i ffwrdd yn unig, ac nid y rhai sy’n byw drws nesaf? He who does not love the brother whom he has seen, cannot love God whom he has not seen. (1 Ioan 4.20)
Gallai rhan o’r ateb fod yn nwylo Cyfarfod y Cyfeillion yng Nghymru, y mae ei gylch gorchwyl yn cynnwys “gweithredu fel cymodwr ar faterion sydd yn effeithio ar Gymdeithas Grefyddol y Cyfeillion o fewn Cymru ac yn gyffredinol o fewn y gymdeithas Gymreig” [Ffydd ac Ymarfer y Crynwyr 5.06/5.07]. Gall CCNg ymateb i argyfyngau sy’n effeithio ar gymdeithas yng Nghymru ac mae’n gwneud hynny yn aml fel rhan o ymateb unedig gan CYTUN (Eglwysi Cytun yng Nghymru). Trwy wneud hyn, gallai CCNg arwain y ffordd neu gynnig cymorth i gyfarfodydd lleol, pan fo hynny’n briodol, i wneud yr un peth yn lleol.
Mae’n wir, wrth gwrs, bod rhai Cyfeillion eisoes yn ymwneud â’u cymdogaeth ar lefel unigol, boed hynny’n broffesiynol, yn gymdeithasol, yn ecwmenaidd neu thrwy gyswllt â rhyw fath o waith prosiect neu waith grðp sydd o ddiddordeb personol iddynt. Fodd bynnag, mae rheswm dros gredu nad yw’r Cyfeillion hynny yn cyfleu eu pryderon yn eu cyfarfodydd a’u bod yn dawedog ynghylch hysbysu eraill am sail ffydd eu cyfranogiad. Yn ogystal, rydym wedi gweld ymdeimlad cryf ymhlith Cyfeillion eu bod yn teimlo y dylai eu cyfarfod ymwneud â’i ardal leol mewn ffordd gyfun, fel presenoldeb amlwg y Crynwyr. Oherwydd hynny, argymhellwn fod cyfarfodydd/Cyfeillion yn dod i adnabod eu cymunedau lleol yn well, cyfranogi mewn bywyd lleol yn fwy manwl, fel Crynwyr cyffesedig. Ystyriwch eich cymdogaeth mewn ffordd dyner - a chofiwch eich bod yn rhan ohoni! Argymhellwn hefyd y dylai Cyfarfod y Cyfeillion yng Nghymru fod yn barod i gefnogi cyfarfodydd lleol sy’n dymuno cymryd rhan mewn gweithgareddau yn y gymdogaeth a, phan fo hynny’n briodol, tynnu sylw cyfarfodydd lleol at gyfleoedd i ymestyn i’r gymuned neu sefyllfaoedd lle y gallai Cyfeillion lleol chwarae rôl a fydd o gymorth. Dylai Cyfarfod y Cyfeillion yng Nghymru a’r cyfarfodydd lleol ystyried y digwyddiadau yn y calendr Cymreig wrth gynllunio'u gwaith ymestyn i’r gymuned.
Yn ôl i'r brig
5.3 Lleoliad, Lleoliad, Lleoliad
Mae mannau cyfarfod Cyfeillion lleol yn ystyriaeth bwysig ar gyfer pob agwedd ar groeso ysbrydol. Nid oes gan lawer o Gyfeillion yng Nghymru dþ cyfarfod neu fan cyfarfod mewn lleoliad canolog amlwg lle y gallai’r rhai sy’n mynd heibio, sylwi ar bresenoldeb grðp addoli o Grynwyr.
Mae Cyfeillion yn aml yn cyfarfod mewn mannau “hardd ond na ellir eu cyrraedd”, neu mewn cilfachau preswyl dosbarth canol. Yn yr achos cyntaf, ni fydd unrhyw un yn mynd heibio, ac oherwydd nad oes llawer o gludiant cyhoeddus ar gael ar ddydd Sul mewn ardaloedd gwledig, os o gwbl, ni all y rhai nad ydynt yn gallu fforddio cadw ceir fynychu, neu maent yn gorfod dibynnu ar eraill am lifftiau. Mewn cymdogaethau dosbarth canol, nid yw’r rhai sy’n mynd heibio yn debygol o fod yn amrywiol yn gymdeithasol, ac efallai na fydd y bobl sy’n mentro “o’r dosbarthiadau eraill”, yn siðr y cânt groeso. (Er hyn, cynhaliwyd un o’n ‘chwe’ chyfarfod yng nghanol stad o dai cyngor; ond anaml iawn y gwelwyd y cymdogion yn y Tþ Cyfarfod.) Mae nifer o'r cyfarfodydd yn cael eu cynnal mewn corneli a strydoedd cefn sydd gymaint allan o’r ffordd, yr unig adeg y gellir dod o hyd iddynt yw os ydych eisoes yn gwybod am yr hyn yr ydych yn chwilio amdano; caiff eraill eu cuddio gan gloddiau neu waliau hyd yn oed os ydynt ar briffordd. Cawsom wybod am un tþ cyfarfod yn Iwerddon a oedd wedi dechau denu aelodau newydd yn sydyn ar ôl gwaredu gât haearn a’r mur uchel a oedd yn ei amgylchynu.
Nid yw Cyfeillion yn tueddu i hoffi newid, ac maent yn aml yn hoff iawn o’u tai cyfarfod hanesyddol. Heb os nac oni bai, mae angen egni i newid pethau - nad oes llawer ohono i’w weld ymhlith Cyfeillion ar hyn o bryd - ac mae rhywbeth arbennig am awyrgylch man lle y mae pobl wedi bod yn addoli ynddo ers blynyddoedd. Fodd bynnag, gall gofalu am dþ cyfarfod (os yw’n un hanesyddol neu beidio) gymryd llawer o egni a allai gael ei ddefnyddio’n well i gynnal yr ysbryd. Cawsom wybod bod Cyfeillion, ar brydiau, yn “ymddangos eu bod yn rhoi mwy o werth ar adeiladau na phobl”.
Yn ôl i'r brig
It’s another one of my hobbyhorses, actually, that old meeting houses aren’t accessible to people without private transport.... You throw money at keeping these old meeting houses going, which is lovely, but they should all belong to the National Trust as far as I’m concerned, and let us have a meeting there every now and again... X Meeting House couldn’t be used for anything else as far as I can see. It’s an old building. I wouldn’t think it was particularly safe, actually. And ... I can’t see how you’d get a wheelchair in there ... even with someone on a zimmer frame or on sticks or something, access would be very difficult.
Nid oes gan gyfarfodydd nad oes ganddynt dþ cyfarfod, y faich o’i gynnal a’i gadw. Fodd bynnag, o safbwynt croeso ysbrydol, maent yn wynebu nifer o anfanteision. Yn aml, ni allant hysbysebu eu presenoldeb yn effeithiol, ac wrth gwrs, ni allant groesawu grwpiau eraill. (Mae hyn yn pryderu Cyfeillion nid yn unig oherwydd gwaith ymestyn i’r gymuned, ond oherwydd tystiolaeth hefyd.) Mae’n golygu bod y dasg o godi proffil y Crynwyr lawer yn fwy beichus. Mae’n golygu hefyd nad oes gan Gyfeillion leoliad cyfleus i gynnal eu digwyddiadau arbennig eu hunain. A gallai’r lleoliad fod yr un mor anodd i’w gyrraedd ag unrhyw dþ cyfarfod. Yn wir, mae gan rai cyfarfodydd ddau leoliad cyfarfod neu fwy, a ddefnyddir yn eu tro, ac mae aelodau un cyfarfod mor wasgaredig, fel ei fod yn cyfarfod mewn pedwar lle mewn mis. Mae hyn yn galluogi Cyfeillion i rannu baich teithio, ond mae’n aml yn annog newydd-ddyfodiaid i beidio â mynychu.
Gall ymddangosiad man cyfarfod fod yr un mor arwyddocaol â’i leoliad. Mae gan ‘Adeiladau sydd â Thðr’ un fantais amlwg - maent yn edrych fel mannau addoli! Mae angen i’r lleoliad fod yn hawdd ei adnabod mewn rhyw ffordd neu gael ei labelu’n eglur fel man addoli. Mae’n ymddangos bod tai cyfarfod nad ydynt wrth ymyl y ffordd, a heb unrhyw arwydd ar y stryd, yn cyfleu “Preifat - dim tresbasu” i’r rhai sy’n mynd heibio. Gallai’r argraff hwn gael ei atgyfnerthu os arferai’r tþ cyfarfod fod yn adeilad preswyl preifat. Ni fydd argraff o’r fath yn cael ei ddadwneud gan arwydd ar wal y tþ cyfarfod sy’n dweud “Croeso i bawb” - yn enwedig os na fydd pobl yn gallu ei weld o’r ffordd! A gallai tu allan anhyfryd i adeilad beri i bobl beidio â cheisio dod i mewn. Cwynodd un ferch ifanc bod ei Thþ Cyfarfod yn “cold, plain, dull and lifeless building”.
Yn ôl i'r brig
I’r rhai nad oes ganddynt dþ cyfarfod, mae’n anoddach cyflwyno tu allan croesawgar. Er hyn, trwy ystyried ychydig, mae ffyrdd o wneud hyn. Mae’n bwysig sicrhau bod pethau mor hawdd ag y bo modd. Mae rhai cyfarfodydd, er enghraifft, yn trefnu bod Cyfaill yn aros yn y stryd i groesawu a chynorthwyo ymwelwyr. Mae eraill yn defnyddio arwyddion amlwg a chroesawydd wrth y drws. Mae’n siomedig braidd darllen sylwadau megis:
Did not know how to get into property - which door to use.
Hyd yn oed i Gyfaill profiadol, gall fod yn frawychus dod o hyd i'r adeilad cywir a’r ystafell gywir weithiau. Yn ogystal, efallai na fydd pobl sydd ag anableddau yn gallu cyrraedd yr ystafell gyfarfod, er enghraifft os bydd grisiau. Yn yr un modd â chynifer o agweddau ar ein harfer, bydd pobl yn gorfod dod o hyd i’r ffordd i fewn ar eu pen ei hunain yn aml.
Argymhellwn fod cyfarfodydd lleol yn ystyried symud i leoliad canolog, hygyrch. Dylai cyfarfodydd nad oes ganddynt dþ cyfarfod, naill ai ystyried prynu un neu geisio dod o hyd i ‘berchennog adeilad’ a fydd yn sympathetig i’r dymuniad i hysbysebu presenoldeb y Crynwyr yno. Dylai cyfarfodydd wneud popeth y gallant i sicrhau ei bod yn hawdd dod o hyd i leoliad eu cyfarfodydd, eu bod yn ddeniadol ac yn hygyrch o ran ffaith ac ymddangosiad, a sicrhau ei bod yn hawdd i newydd-ddyfodiaid gyrraedd yr ystafell gyfarfod.
Ystyriaeth derfynol: un fantais fawr o beidio â chael ein cyfyngu i adeilad ‘cysegredig’ arbennig yw ein bod yn rhydd i arbrofi trwy fynd â’r cyfarfod addoli i’r gymuned yn hytrach nag aros iddyn nhw ddod atom ni. Ni chawn ein cyfyngu i ddydd Sul ychwaith. Mae rhai cyfarfodydd wedi bod yn rhoi cynnig ar gyfarfod addoli canol wythnos mewn lleoliad gwahanol, er enghraifft mewn coleg, neu gynnal cyfarfodydd addoli ‘rhagflas’ fel rhan o ddigwyddiad ymestyn i’r gymuned. Mae cyfarfod addoli Cymraeg newydd gychwyn ym Mhwllheli. Mewn cyfweliad a gynhaliwyd yn ddiweddar ar gyfer y cylchgrawn Cambria, bu Dr Rowan Williams (Archesgob Cymru ar y pryd) yn canmol yr arfer o addoli yn yr awyr agored ac mewn mannau eraill lle y caiff y rhai sy’n mynd heibio, gyfle i “hang around on the edges”. Dywedodd: “Very often at open-air events people will pick up a kind of spirituality that they wouldn’t otherwise recognise.” Anogwn y Cyfeillion i addoli mewn ffordd fentrus!
Yn ôl i'r brig
5.4 Llais Crynwr Hyderus
Rydym eisoes wedi trafod yr arfer cynhenid hir o dawelwch a achosir gan ddehongliad eithafol o’r rheol ‘dim cenhadu’. Yn ogystal, rydym wedi cyfeirio at bwysigrwydd ymestyn yn bersonol i’r gymuned. Mae Cyfeillion yn parhau i deimlo’n eglur nad ydym yn dymuno gorfodi’n safbwyntiau ar unrhyw un nad oes ganddynt ddiddordeb, neu roi pwysau ar unrhyw un i ymuno â ni, neu gychwyn ar ymgyrch efengylaidd ymosodol. Mae rhan fwyaf y Cyfeillion yn dymuno rhannu’r hyn yr ydym wedi dod o hyd iddo gyda’r rhai sy’n chwilio’n ysbrydol. Yn unol â thystiolaeth y Crynwyr ynghylch gwirionedd a didwylledd, teimlwn ei bod yn iawn bod pobl yn cael gwybod sail ffydd ein tystiolaeth yn y byd. Ond dro ar ôl tro, dywedodd Cyfeillion wrthym eu bod yn ystyried siarad yn agored am eu ffydd yn broses frawychus, er eu bod yn teimlo bod hyn yn iawn mewn egwyddor.
Un rhwystr yw’r swildod tawel sydd mor gyffredin ymhlith Cyfeillion. Ochr gadarnhaol y rhinwedd hon yw gwyleidd-dra clodwiw a thuedd i beidio â chanmol ein hunain. Yr ochr negyddol yw’r rhwystredigaeth y mae’r rhai sy’n gofyn cwestiynau yn ei deimlo pan gânt eu hateb gan dawelwch sy’n ymddangos yn ochelgar. Yn rhy aml, rhoddir llyfr neu daflen i’r rhai sy’n holi yn hytrach nag ymateb personol. Dywedodd un llyfrgellydd o’r Alban:
Often people come to me and say, So and so has told me to come and talk to you to find out about Quakers. Sometimes I get the feeling that really what they wanted was the human touch - for the person themselves to tell them what was important for them about Quakers.
Yn ôl i'r brig
Dyma rai sylwadau eraill:
We are too middle-class, we do not like doing the uncomfortable things, eg talking to people in pubs, sitting down and talking to homeless people at night.
Having a visible presence means you have to explain who and what you are.
A certain hesitation about what it is we have to offer.
The general lack of understanding about Quakerism means that there is nothing to build on - we have to start from scratch.
Are we afraid of not being part of a comfortable, respected majority?
Ni allwn wneud sylwadau am wirionedd yr awgrym mai ofn cael ein hystyried yn bobl rhyfedd sy’n ein cadw’n dawel - er ei fod yn ofn dealladwy, yn enwedig ymhlith pobl ifanc. Rydym yn gadael i’r Cyfeillion archwilio’u calonnau eu hunain! Mae trafferth cynhenid cyfleu Crynwriaeth yn fwy real - ynghyd â’r drafferth sylfaenol nad yw rhai ohonom yn rhy siðr ein bod yn gwybod ystyr Crynwriaeth yn union. Problem gysylltiedig yw ein bod yn ymwybodol iawn o’n hamrywiaeth ddiwinyddol, ac felly, mae’n ymddangos yn amhosibl bron i ateb cwestiwn fel “Beth y mae Crynwyr yn ei gredu?” mewn ffordd a fydd yn gwneud cyfiawnder â’n holl Gyfeillion. Credwn fod y trafferthion hyn yn tarddu o’r ffaith nad ydym yn trafod ein Crynwriaeth ddigon gyda’n gilydd er mwyn i ni fod yn hyderus ynghylch ei esbonio i rywun o’r tu allan. Yn Adran 8, rydym yn trafod pwysigrwydd trosglwyddo’n traddodiad i’r rhai newydd. Yma, hoffem danlinellu pwysigrwydd bod yn barod i esbonio ffordd y Crynwyr i’r byd y tu allan pan fydd y cyfle’n codi. Mae astudiaethau a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Dr John Hayward o Brifysgol Morgannwg yn dangos bod eglwysi llwyddiannus yn cynnwys grðp o bobl sy’n hyderus yn eu ffydd ac sy’n ei gyfleu i’w ffrindiau a’u cydweithwyr.
Argymhellwn fod pob lefel yng Nghyfarfod Blynyddol Prydain yn cydweithio i egluro’u dealltwriaeth o neges y Crynwyr ac yn ymarfer rhannu eu credoau trwy eiriau (cyn belled ag y bo modd). Gofynnwn i Gyfarfod y Cyfeillion yng Nghymru, trwy ymgynghori â Quaker Life Outreach Committee a Woodbrooke, i ystyried pa hyfforddiant fyddai’n helpu’r Cyfeillion i ddatblygu llais Crynwr hyderus yn y Gymdeithas a thu hwnt. Gofynnwn i gyfarfodydd a Chyfeillion unigol fod yn ymwybodol o sut gallant fanteisio ar yr hyn sydd ar gael eisoes a’r hyn a allai fod ar gael yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod Crynwriaeth yn fwy adnabyddus ac yn cael ei ddeall yn well.
Yn ôl i'r brig
|