Y Crynwyr yng Nghymru
Prosiect Croeso Ysbrydol

ENGLISH


Crynwyr Cymru


Croeso

Rhagair

Pennod 1

Pennod 2

Pennod 3

Pennod 4

Pennod 5

Pennod 6

Pennod 7

Pennod 8

Pennod 9

Pennod 10

Pennod 11

Atodiad I

Atodiad II

Atodiad III

Atodiad IV

Atodiad V

Atodiad VI

Cyfeiriadau

Cydnabyddiaeth

Rhestr o
Dermau’r Crynwyr


Contact us:
stevie.k
@tiscali.co.uk


This project
is entirely
funded by the
Joseph Rowntree
Charitable Trust

Pennod 6: Trafferthion Busnes

Should we be spending our time keeping our structures going? I am losing my own spiritual life; we need to simplify the way we do business.

Cyfaill a ddyfynnwyd yn Adroddiad Interim y Gweithgor Grwpiau Rhanbarthol a Lleol

6.1 Egni a Blaenoriaethau

Yn ein cyflwyniad, fe wnaethom gyfeirio at y neges a glywyd gan y Gweithgor Grwpiau Rhanbarthol a Lleol, y gallai cynnal ein strwythurau fod yn faich, ac y byddai’r baich i gyd ar ysgwyddau rhai Cyfeillion. Codwyd y broblem o Gyfeillion y gofynnir gormod ganddynt, a chyfarfodydd bach sy’n delio â gormod o gyfrifoldebau, dro ar ôl tro yn ystod ein hymchwiliad. Dywedodd rhai cyn-fynychwyr a hyd yn oed Cyfeillion presennol wrthym bod y posibilrwydd o deimlo eu bod yn gorfod cymryd y ‘swyddi’ wedi eu hannog i beidio ag aros gyda’r Crynwyr, neu o beidio ag ymwneud yn fwy â’r Crynwyr. (Fel arfer, aethant ymlaen i ychwanegu na roddwyd unrhyw bwysau arnynt; roedd yn rhywbeth yr oeddent wedi’i deimlo eu hunain.)

... you know, you’ve got to have your Elders and your Overseers and there’s got to be somebody to go to Monthly Meeting and there’s got to be someone to go to Meeting of Friends in Wales, and somebody’s got to do this, and somebody’s got to do that... I think it makes such huge pressures that you almost don’t have the energy left to be spiritual. You know when you’re sitting quietly it was just a relief from thinking ‘I suppose I’ll have to volunteer for that...’

Roedd hi’n eglur o’r hyn a ddywedwyd yn ein chwe gweithdy bod y Cyfeillion yn ystyried croeso ysbrydol yn ‘swydd’ arall nad oedd ganddynt yr egni neu’r dwylo dros ben i’w chyflawni.

Cyfeiriwyd at nifer o ffyrdd o ymateb i’r anhawster hwn.

  • Gallai rhywun symleiddio’r strwythurau a gostwng nifer y ‘swyddi’
  • Gellid rhoi rhywfaint o gymorth gweinyddol proffesiynol i gyfarfodydd, er mwyn rhyddhau egni Cyfeillion ar gyfer croeso ysbrydol a gorchwylion eraill a arweinir gan yr ysbryd.
  • Gallai cyfarfodydd eu hunain ryddhau un (neu fwy) ohonynt o’r holl gyfrifoldebau eraill er mwyn iddynt allu canolbwyntio ar ymestyn i’r gymuned.
  • Gallai pob Cyfaill ystyried bod croeso ysbrydol yn un o’r ffyrdd o alluogi cariad Duw i weithio drwyddynt, fel mynegiant naturiol o’u ffydd.
Yn ôl i'r brig

Mae’n debygol bod y cynnig cyntaf y tu hwnt i gylch gorchwyl y prosiect hwn, ond edrychwn ymlaen at weld sut y bydd y Cyfarfod Blynyddol, drwy’r ymarfer RECAST, yn parhau i weithio i wella’i strwythurau er mwyn rhyddhau’r ysbryd.

Mae’n ymddangos ei bod yn werth ystyried yr ail gynnig. Gan gofio bod RECAST yn ystyried y mater hwn hefyd, argymhellwn fod Cyfarfod y Cyfeillion yng Nghymru yn ystyried ffyrdd a dulliau o ddarparu cymorth gweinyddol y telir amdano, i’w swyddogion ei hunain a swyddogion cyfarfodydd lleol.

Rydym yn fwy petrusgar am y trydydd cynnig; o ystyried y pwysau y mae cyfarfodydd bach yn ei deimlo eisoes, mae’n siðr na fyddai croeso i’r cam o ychwanegu swydd arall i restr hir y penodiadau teirblynyddol. Fodd bynnag, mae hwn yn rhywbeth y bydd cyfarfodydd mwy yn dymuno ei ystyried. Un ateb arall fyddai delio â rhai tasgau mewn ffordd fwy cydweithredol, trwy gyfrwng cyfarfodydd misol neu Gyfarfod y Cyfeillion yng Nghymru. Rydym yn gwneud rhai argymhellion am hyn yn Adrannau 8 a 9.

O’r pedwar cynnig, ystyriwn mai’r un terfynol yw’r un pwysicaf. Mae gan enwadau eraill weinidogion a gaiff eu talu. Yn ein ‘hoffeiriadaeth yr holl gredinwyr’, rhaid i ni dderbyn ein bod oll yn gyfrifol am ofal ein gilydd, a p’un a ydym yn newydd-ddyfodiaid ai peidio. Ac yn y byd y tu allan, ni yw wyneb cyhoeddus Crynwriaeth.

Mae nifer ohonom yn hoffi cyfeirio at y ffaith ein bod wedi ‘dod gartref’ i’r Gymdeithas. Os mai’r gymdeithas yw ein gwir gartref, mae gan bob un ohonom yr hawl i estyn gwahoddiad i eraill ymweld, ac mae gan bob un ohonom ddyletswydd i fod yn groesawgar ac ystyried y rhai sy’n croesi’r trothwy. Fel nifer o gartrefi, mae’r cyfarfod yn gartref a rennir. Rydym wedi clywed am gyfarfodydd lle nad yw Cyfeillion yn teimlo bod yn rhaid iddynt wneud ymdrech i groesawu newydd-ddyfodiaid oherwydd ‘Mae Nelly yn gwneud hynny bob amser.’ Heb ystyried yr hyn sy’n digwydd pan na fydd Nelly yno, gofynnwn a yw hi’n iawn gadael i arolygwyr neu Gyfaill arbennig, a benodir neu sy’n dewis ymgymryd â’r rôl eu hunain, i fod yn gyfrifol am y cyfrifoldeb ysbrydol sylfaenol hwn. Os gallwn ei fforddio, gallwn dalu pobl i weinyddu drosom neu olygu ein cylchgronau neu roi cymorth ymarferol arall i ni. Ni allwn dalu unrhyw un i fod yn Grynwyr drosom. Galwn ar bob Cyfaill i gydnabod bod croeso ysbrydol yn rhan sylfaenol o'u tystiolaeth personol fel Crynwyr.

Yn ôl i'r brig

6.2 Cofnodion a Manylion

Testun pryder pwysig yw’r ffordd y mae busnes yn effeithio ar fywyd ysbrydol y cyfarfod cyfan, ac ar yr unigolion ynddo. Penderfynodd un mynychwr adael yn rhannol oherwydd

There seemed to be a huge emphasis on the business - it seemed to take precedence over everything else. So after the silence, it was all businessy things.

Hoff ymateb Cyfeillion i gwynion o’r fath yw’r mantra mai ffurf arall ar y cyfarfod addoli yw’r cyfarfod busnes - ond a yw hynny’n adlewyrchu’r profiad? Cyfeiriodd un Cyfaill at “killjoy ‘right ordering’ because a spontaneous initiative at PM level had not been properly presented to and approved by MM”. Cyfeiriodd eraill ar obsesiwn andwyol ynghylch manylion:

It was just an odd thing that having had such silent meetings with such valid and great ministry in them, I suppose it’s inevitable that you have to have your organising meetings afterwards,....and I think you’re incredibly patient, but they just seem to go on and on and on. And at times we seemed to be going round such a small point and I’d think, gosh, you know, can’t this be sorted out?

Yn ôl i'r brig

Monthly meeting, Yearly Meeting, business meetings - en masse I find these to be scary, tedious. People I like one-to-one can appear to dwell on detail so much and become fussy. The meetings can be dominated by ‘wordy Friends’ who I feel no common bond with. They put me off Quakers.

Ar yr ochr gadarnhaol, soniodd un mewn cyfweliad am un tþ cyfarfod lle’r oedd problem gyda’r to, “but it didn’t take over everything else as in some of the other churches I’ve been to. It wasn’t the sole topic of conversation!” Wrth gwrs, bydd lefel y sylw a roddir i ‘faterion yr eglwys’, yn amrywio o gyfarfod i gyfarfod. Ond mae’n ddifrifol i glywed am brofiadau nifer o Gyfeillion profiadol iawn nad ydynt yn teimlo’n frwdfrydig am gymryd rhan mewn cyfarfodydd busnes, beth bynnag fo’r rheswm dros hyn.

Efallai nad oes gan newydd-ddyfodiaid brofiad o ffyrdd y Crynwyr, ond gallant ddwyn profiad trefniadaethol ac ysbrydol cyfoethog. O ystyried cyfarfod busnes Crynwyr trwy lygaid gwybodus, efallai na fydd yn cyflawni’r hyn yr ydym yn honni y mae’n ei gyflawni.

Yn ôl i'r brig

6.3 Crynwyr eglur?

Fe wnaethom gyfeirio’n gynharach at y cyn-fynychwr a ddywedodd bod treulio amser gyda Chyfeillion wedi gwella’i geirfa! Mae problem hysbys arall yn codi sy’n ymwneud â geirfa, ac mae bron yn jôc gyffredin erbyn heddiw: Jargon y Crynwyr. Dyma un o’r rhesymau a nodwyd gan bobl dro ar ôl tro a oedd yn peri iddynt deimlo’u bod yn cael eu heithrio mewn cyd-destun Crynwrol. Mae’r gðyn hon yn gyfarwydd iawn ac nid oes angen ei hesbonio ymhellach, ond nid yw’n gwneud unrhyw ddrwg i atgoffa’n hunain o’i heffaith ar newydd-ddyfodiaid:

All the Quaker-speak (which I really don’t like), eg PM, QM, Preparative Meeting, Monthly Meeting etc.

Use of ‘in-group’ language and behaviour.

The first ‘business’ meetings I attended left me feeling very puzzled, because I could not understand ‘Quaker speak’.


Problem gysylltiedig yw y gall ein strwythurau fod yn gymhleth:

Difficult to understand at first how PM, MM etc work and what they are.

Once I had become a regular Attender, found it very difficult to familiarize myself with the structure of the Society, with its PMs and Monthly Meetings and Meeting for Sufferings. Especially difficult too is the use of abbreviated titles such as QPS. Even after three years ... I still feel confused and am compiling my personal list of these abbreviations.


Unwaith eto, mae’n ymwneud â dychymyg - o roi eich hun yn sefyllfa rhywun arall. Anogwn Gyfeillion ar bob lefel i gofio nad yw eu holl wrandawyr yn gyfarwydd â’n strwythurau a’n geirfa, ac y dylid osgoi jargon neu ei esbonio. Mae gan glercod ddyletswydd arbennig, wrth baratoi hysbysiadau neu gyflwyno darn o fusnes gerbron cyfarfod, i esbonio unrhyw acronymau neu dermau eraill a allai fod yn annelwig. Awgrymwn y dylid pwysleisio hyn yn ystod yr hyfforddiant a’r arweiniad a roddir i glercod.

Mae Cyfarfod Misol Dulyn a Chyfarfod Paratoawl Glasgow wedi paratoi taflenni esboniadol ardderchog ynghylch dull busnes y Crynwyr (roedd taflen Dulyn yn esbonio strwythur Cyfarfod Blynyddol Iwerddon hefyd). Awgrymwn fod QLCC yn paratoi taflen syml, hygyrch, am ddull busnes y Crynwyr, fel model y gall cyfarfodydd eraill ei addasu pan fo hynny’n briodol.

Yn ôl i'r brig