|
Y Crynwyr yng Nghymru Prosiect Croeso Ysbrydol
|
ENGLISH
Crynwyr Cymru
Croeso
Rhagair
Pennod 1
Pennod 2
Pennod 3
Pennod 4
Pennod 5
Pennod 6
Pennod 7
Pennod 8
Pennod 9
Pennod 10
Pennod 11
Atodiad I
Atodiad II
Atodiad III
Atodiad IV
Atodiad V
Atodiad VI
Cyfeiriadau
Cydnabyddiaeth
Rhestr o Dermau’r Crynwyr
Contact us:
stevie.k
@tiscali.co.uk
This project
is entirely
funded by the
Joseph Rowntree
Charitable Trust
|
Pennod 8: Croeso Ysbrydol
Sensitivity is the art above all that we need to cultivate. I feel this with great force because I am still trying to learn it.... if we are to speak to others, we first need to learn to listen to them with sensitivity.
George Gorman (QFP 22.08)
8.1 Croesawu newydd-ddyfodiaid - Y newyddion da
Y newyddion da yw bod rhan fwyaf y newydd-ddyfodiaid wedi dweud bod y Cyfeillion wedi bod yn groesawgar ac yn gynhwysol iawn, a’u bod wedi gwerthfawrogi absenoldeb cwestiynau personol holgar neu bwysau i ddychwelyd. Roedd gan nifer o Gyfeillion bryderon ynghylch codi ofn ar ymholwyr trwy roi croeso rhy fyrlymus iddynt. Nid oedd yn rhaid iddynt ofidio - mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod y Cyfeillion yn sicrhau’r cydbwysedd cywir ar y cyfan. Roedd llawer o ganmoliaeth am y ffaith ein bod yn derbyn pobl fel ag y maent ac am “beidio â’u barnu”. Dyma rai sylwadau nodweddiadol:
Friends! - welcoming, friendly, hospitable
By and large, well the Friends I’ve met, are very good at not bouncing over and putting pressure on you, you know. A sort of sensitive “We’re here and would you like to ....?” like that.
Woodbrooke conferences and other Quaker gatherings - not particularly one comment, rather a feeling of deep acceptance of all of me ... Very attractive to me - I want to learn how to do it, be with people who do it.
My first experience of a Quaker meeting, where I was welcomed and made to feel that they would be pleased to see me again, as an Attender, without any suggestion of commitment.
Yn ôl i'r brig
I eraill, roedd tawelwch y cyfarfod ei hun yn rhyw fath o groeso, waeth sut oedd y Cyfeillion wedi ymddwyn wrth ddrws y tþ cyfarfod.
The profound, gathered and strong SILENCE of my first Meeting for Worship at X, which engendered for me a sense of total and absolute inclusion within the group. I felt part of a spiritual, purposeful and divinely directed meeting.
Nid oes angen dweud bron, bod bywyd y cyfarfod ei hun yn ffactor allweddol, pa un a wneir ymdrechion arbennig i feithrin mynychwyr neu beidio. Yn eu rhestr o gyflawniadau, nododd nifer o gyfarfodydd ymdeimlad o gymuned go iawn yn y cyfarfod, a oedd yn tyfu.
A meeting has been created where individuals can and do support each other in most ways.
Revival of enquiry and heart-searching within the Friends’ group itself.
Being prepared to listen, and through listening, to be changed.
Yn ôl i'r brig
Un arwydd da o gymuned iach yw’r teimlad bod cyfarfodydd yn gallu delio â thensiynau mewnol. Mae hyn yn aml yn dod i’r golwg rhwng y llinellau.
Encouraging bilingualism over the years has reassured English members, hopefully encouraged Welsh Friends.
A nurturing group - sometimes challenging too.
Wrth ei flas y mae profi pwdin, ac mae hyn yn wir yn hyn o beth; roedd hi’n dda clywed am fynychwyr a oedd yn cael eu croesawu a’r rhai a oedd yn ‘teimlo’u bod yn perthyn’ ddigon i wneud cais i ymaelodi:
I’ve only been attending for two years and I still feel relatively new - and welcomed.
Someone who came into membership less than three years ago had been an attender for many years at a large meeting in [the West of England], felt she was not really one of them, and never considered applying for membership. She moved to Wales, didn’t attend Meeting for 10 years, then enquired where the nearest Meeting was and came [here]. After a few months I offered her a lift to MM, and then to MFW, and nine months after coming to us for the first time she applied for membership, because she ‘felt she belonged’.
Yn ôl i'r brig
8.2 Pan fo’r croeso yn dod i ben
Nid yw’r holl newyddion yn dda, fodd bynnag. Fe wnaethom ofyn i Gyfeillion geisio cofio achlysuron pan oeddent yn teimlo’u bod wedi cael eu cynnwys mewn cyd-destun Crynwrol, a hefyd, enghreifftiau o achlysuron pan wnaethant deimlo’u bod wedi cael eu heithrio. Mae’n drist adrodd bod nifer wedi profi’r teimlad “Being new in a large meeting and having everyone too busy with each other to notice me.” Nid yw hyn mor debygol o ddigwydd mewn cyfarfod bach. Ar y llaw arall, mae nifer ohonom yn teithio cryn dipyn i gyfarfod ac ni chawn gyfleoedd eraill i gyfarfod â’n Cyfeillion, cael gwybod am newyddion y lleill a delio â materion busnes. Gall newydd-ddyfodiaid deimlo’u bod ar y cyrion mewn trafodaeth fywiog am rywun neu rywbeth nad ydynt yn gwybod unrhyw beth amdanynt.
Gall y croeso cynnes i newydd-ddyfodiad fod yn eithaf arwynebol yn y pen draw. Weithiau, nid yw’n parhau:
The formal greeting at the door was not matched by a sense of communal hospitality. There was a feeling that Quakers excel at distance-justice and not an immediate perception of cherished individual worth.
People were friendly enough on the day [ie Sunday], but beyond that there wasn’t any particular pastoral care.
After more than a year of regular attendance, not being visited when ‘out of action’ for several months following surgery.
Mae llawer i ddweud dros groeso. Dywedodd Cyfaill o’r Ffindir wrthym ei bod hi’n estyn gwahoddiad i fynychwyr ddod am bryd o fwyd, fel y mae rhai Cyfeillion yn ei wneud yng Nghymru. Mae Cyfeillion yng Nghyfarfod Stockholm yn arbrofi gyda ‘grwpiau cyfeillgarwch’:
....small groups for social activities so they ‘do’ something together - eat, go to the theatre or for a walk etc - so that a newcomer can interact with a small ‘contact’ group and therefore feel heard and seen.
Gwerthfawrogir gwahoddiadau personol o’r fath yn fawr, a chadarnhawyd hyn mewn sylwadau dro ar ôl tro. Yn ogystal, cyfeiriwyd at rannu prydau a digwyddiadau cymdeithasol eraill fel digwyddiadau defnyddiol iawn sy’n helpu newydd-ddyfodiaid i setlo. Mae’r cyfleoedd hyn i gymdeithasu yn croesawu’r newydd-ddyfodiad ac yn gwella bywyd y cyfarfod.
Yn ôl i'r brig
8.3 Gormod o’r ‘iawn drefn’
Ffactor arall y cyfeiriwyd ato’n gyson iawn oedd y Cyfeillion ‘pwysig’ neu ymyrgar sy’n penderfynu esbonio i newydd-ddyfodiad sut y mae wedi torri un o reolau Ymddygiad Safonol y Crynwyr. Beth bynnag fo’r dymuniad i wneud y peth iawn, bychanu yw hyn yn y bôn. Rhaid i ni ddweud ei bod yn ymddangos yn beth groes i’r graen i ni i weld bai ar fynychwyr am wneud y ‘peth anghywir’, pan fo Cyfeillion yn aml heb esbonio ffyrdd y Crynwyr iddynt. Dyma rai enghreifftiau:
Being put down by a weighty/experienced Quaker after I’ve made an ill-framed contribution to discussion. (Others worked to repair, bolster me.)
Being told I couldn’t bring a ‘peace candle’ to light during the Gulf War, ‘because Quakers don’t like candles’.
For many years I was in the habit of knitting during business meetings, being the sort of person who needs to be ‘busy’ while sitting. It was also a way of relaxing and an aid to thought and consideration. I thought this was acceptable - I was following the lead of a number of other Friends who did the same. It was a shock therefore to be reprimanded for knitting during a monthly meeting - very gently - but ... This ... left me feeling like a naughty school-child and seriously affected my desire to attend long meetings.
Cawsom wybod am un stori boenus iawn am Gyfaill a oedd wedi ymdrechu i fynychu cyfarfod yn rheolaidd, er gwaethaf ei hamgylchiadau teuluol anodd dros ben. Fodd bynnag, roedd ei hymrwymiadau teuluol yn ei hatal rhag aros wedi i’r cyfarfod addoli ddod i ben. Un diwrnod, penderfynodd un Cyfaill ddweud y drefn wrthi am beidio â chynnwys ei henw ar y rotâu paratoi coffi a bod wrth y drws. Pan esboniodd pa mor bwysig yr oedd hi iddi fynd adref a pharatoi cinio dydd Sul, atebodd y Cyfaill: “You could give them sandwiches.” Nid yw’r ferch dan sylw wedi mynychu cyfarfod ers hynny.
Yn ôl i'r brig
Roedd y rhai a oedd wedi bod yn dyst i un o’r ceryddon hyn yn unig, yn hytrach na chael cerydd o’r fath eu hunain, wedi ymbellhau o’r Cyfeillion am gyfnod. Ysgrifennodd un am
An occasion in X Meeting when two Friends ministered very pompously and at great length but a young Friend who spoke hesitantly was sharply eldered and told to sit down. It was not my exclusion but I felt great anger and sorrow for the young man who was eldered.
Trydydd ffactor sy’n poeni rhai mynychwyr yw pan fyddwn yn methu â ‘walk our talk’. Pa mor ddifrifol, er enghraifft, y dylem ystyried cwynion ynghylch “intolerance of different beliefs of fellow-Quakers”, fel y nododd un? Mae gennym oll hawl i fynegi barn, ac ni allwn gario baich achosion unigol o anghwrteisi gan leiafrif. Fodd bynnag, weithiau, nid yr anoddefgarwch a fynegir gan un Cyfaill sy’n gofidio arsylwyr, ond y ffaith na chaiff y gwall ei herio efallai; gellir cymryd bod tawelwch yn golygu undod.
... cododd rhywun i siarad ... a chyflwyno llyfr newydd gerbron y gynulleidfa. Diweddodd drwy ddweud mai dyneiddiwr o Grynwr oedd yr awdur ac na welodd y siaradwr ‘bwynt y peth, mewn gwirionedd’. Nid oeddwn wedi clywed unrhywbeth mor ddogmataidd wedi’i lefaru yn y cyfarfodydd o’r blaen ac ni heriwyd ei sylw.... [our emphasis]
(... someone stood up to speak and to introduce a new book to the meeting. The person finished by saying that the author was a humanist Quaker, and the speaker didn’t ‘see the point of that, to be honest”. I had never heard anything so dogmatic spoken in meetings before, and his comment was not challenged.)
Yn ôl i'r brig
Gan gymryd bod Cyfeillion yn tueddu i geisio anwybyddu gwahaniaethau mewn safbwyntiau ar y cyfan, efallai mai nodi’r pwynt er mwyn ei ystyried y mae angen ei wneud yn unig.
Cwynodd nifer o’r ymatebwyr ‘nad oes digon o ysbrydolrwydd’ ymhlith Cyfeillion. Esboniodd un, a anwyd i deulu o Grynwyr, ei bod wedi gadael oherwydd
Dw i’n meddwl wnaeth fy nharo fi bod yna rhywbeth ysbrydol o’n i eisiau a doeddwn i ddim yn cael e yno ond roeddwn i’n cael rhywfaint yn y Capel ... a dw i’n cofio pwyslais ar fyw’n syml, pwyslais ar heddwch a phwyslais ar gyfiawnder cymdeithasol a ... rhywsut doedd e ddim yn ddigon.... (I think it struck me that I was in need of something spiritual and I wasn’t getting it there but I was to some extent in the Chapel ... I remember an emphasis on living simply, on peace and on social justice... but somehow that wasn’t enough....)
Mae’r rhain yn feirniadaethau cyfarwydd; i Grynwyr, mae angen addasu’r cydbwysedd rhwng yr ‘ysbrydol’ a’r ‘ymarferol’ yn barhaus. Fodd bynnag, mae cyfarfodydd yn amrywio ac mae angen cofio bod rhai yn teithio’r ffordd arall oherwydd eu bod o’r farn bod ffordd y Crynwyr yn fwy ysbrydol na’u capel neu eglwys wreiddiol.
Back to top
Mae eraill yn gofidio am elitiaeth sy’n gallu cuddio y tu ôl i honiad o gydraddoldeb:
I really didn’t like, how do I put it? all the “Quaker” stuff, eg “We Quakers believe...”.... I don’t like that it seems to me that the “members” who are higher up the hierarchy all sit in the same place almost in the area which I would associate with the altar.
Decisions seemed to be taken by a small minority of people and pushed through without real consensus.... Certain people always had the ability to push through their agendas. Some people had positions that made them dominant.
In a loud voice in a crowded lobby: ‘Ooooh - aren’t you a Friend? I didn’t think attenders were allowed at Yearly Meeting.’
That ‘they’ can manage it all and don’t need me.
Felt like ‘real Quakers’ were part of a closed group/secret society and impossible to get involved as an outsider.
Mae’n ymddangos bod yr argraff hon o gylch cyfrin o’r Crynwyr mor eang, fel ein bod yn teimlo bod angen i Gyfeillion ystyried faint o goel a roddwn iddo yn ôl ein hymddygiad. Unwaith eto, mae’r pwnc lawer yn ehangach na chroeso ysbrydol, ond mae’n gallu peri i fynychwyr adael, ac mae yn gwneud hynny.
Yn ôl i'r brig
8.4 ‘Mowld’ y Crynwyr
Gall ein hymddygiad tuag at y rhai nad ydynt yn cyd-fynd â stereoteip y Crynwyr fynd yn groes i’n tystiolaeth ynghylch cydraddoldeb yn ddiofal hefyd. Gall tuedd ddiarwybod fodoli ymhlith rhai Cyfeillion i ystyried unrhyw un nad ydynt yn cydymffurfio â’r patrwm disgwyliedig o Grynwr, i fod yn egsotig, trwy fod mor garedig ag y bo modd. Nid yw hyn yn golygu nad oes unrhyw ddiffyg cynhesrwydd yn y croeso, dim ond diniweidrwydd arbennig yn unig. Yn ffodus, roedd y rhan fwyaf o’n hymatebwyr yn teimlo’u bod yn gallu ystyried y ffenomenon hwn mewn ffordd ysgafn, ond gallai eraill fod yn teimlo’n anghyffyrddus o gael eu trin fel rhai ‘nad ydynt yn hollol normal’. Dyma ddwy enghraifft:
One particular study group, the Friend who took me said, ‘Oh, would you mind if I mentioned that you lived in a high-rise flat at one time?’ I thought, ‘No. Well, why should I mind?’, you know. And [when we got there] he said, ‘Well, Anne has said that I may mention ...” Well, that is so sensitive, but it actually doesn’t matter.... And I laughingly tried to describe that life in a high-rise flat was actually just like life anywhere else ....There was this ... deathly quiet at the study group, and I felt, Well, I couldn’t possibly tell you about the other places that I’ve lived. The high-rise flat was definitely a step up! [the name has been changed]
I remember one meeting where a Welsh speaker did come to the meeting, I think more or less off the street, in fact.... And at the end of meeting, at the kind of having tea session, she must have mentioned that she was a Welsh speaker, that she had come from the chapel or something, I can’t remember - and this bloke said, ‘What! You speak Welsh yourself? You actually speak it?’... And I felt very embarrassed and just felt, well, if I were her, I wouldn’t come back because that - and there was no hostility in it whatsoever. He was intrigued, he was interested, he was welcoming, but to me that was saying, ‘We have no knowledge of your culture whatsoever, and we didn’t know that there were any of you left here.’
Yn ôl i'r brig
Yn waeth fyth, mae rhai pobl wedi adrodd enghreifftiau o anoddefgarwch arbennig i ni, neu o leiaf ddiffyg meddwl a sensitifrwydd tuag at y rhai yn ein plith sy’n wahanol i’n disgwyliadau. Yn y cyd-destun Cymreig yn benodol, digwyddwyd clywed sylwadau dilornus am y Cymry neu’r iaith Gymraeg, neu cawsant eu gwneud ym mhresenoldeb Cymry. Mae hanes diweddar y Cyfeillion yng Nghymru wedi datgelu y gall rhai Crynwyr Seisnig, fel newydd-ddyfodiaid Seisnig eraill, ddangos diffyg dealltwriaeth neu gydymdeimlad â phwysigrwydd ysbrydol eu hunaniaeth i’r Cymry. Mae rhywfaint o’r anoddefgarwch hwn yn deillio o anwybodaeth ynghylch hanes ac amgylchiadau presennol Cymru. Mae rhywfaint ohono yn deillio o’r safbwynt mai math o genedlaetholdeb yw Cymreictod, a’i fod felly yn achosi gwrthdaro ac yn rhannu. Gyda hyn, gellir ystyried y gred anymwybodol bod ‘Seisnigrwydd’ a’r iaith Saesneg mewn rhyw ffordd yn niwtral yn ddiwylliannol. Rydym eisoes wedi cyfeirio at ba mor ddymunol fyddai hi i Gyfeillion ddysgu am iaith, hanes a diwylliant Cymru. Heb os nac oni bai, byddai’n ymarfer gwerth chweil i’r rhai hynny ohonom sy’n “siaradwyr Saesneg Eingl-Sacsonaidd” i droi’r ffocws beirniadol ar ein hunain, gan ystyried yr awgrym a wnaethpwyd gan un Cymro a arferai fod yn Grynwr:
Perhaps an honest investigation into [your] own ‘cultural gaze’ (as the postmodernists would have it) might be useful.
Fe wnaethom sôn yn gynharach y gall bywydau cymunedau brodorol a ‘mewnfudol’ gyd-fyw yn aml, ond ar wahân, ac y bydd angen i ni fynd ati i adeiladu pontydd efallai. Yn ein cyfarfodydd, o leiaf, gallwn gydnabod diwylliant Cymru mewn rhyw ffordd, ac mae hyn yn aml yn gallu helpu’r Cymry, os ydynt yn siarad Cymraeg neu beidio, i deimlo’u bod yn cael eu cynnwys. Dyma sylw un:
Friend X at, I think, my third meeting, started talking about the spiritual aspect of some of the early, classical Welsh-language legends. It got me involved and persuaded me that not all Friends were narrowly English!
Ac, i’r gwrthwyneb:
What makes me feel excluded is an English-centred attitude - not taking account of Welsh identity.
Yn ôl i'r brig
Argymhellwn fod Cyfeillion yn cofio’r angen i gydnabod a pharchu’r diwylliant Cymreig arbennig. Anogwn y Cyfeillion i ddysgu am ddiwylliant y wlad y maent yn byw ynddi. Argymhellwn fod Cyfarfod y Cyfeillion yng Nghymru, cyfarfodydd misol a chyfarfodydd lleol (efallai ambell un gyda’i gilydd yn gweithredu fel ‘consortiwm’) yn cynorthwyo’r broses addysgol hon trwy estyn gwahoddiad i siaradwyr gwadd, trefnu cyrsiau ac ati.
Mae’n deg ychwanegu bod angen cofio am yr ochr arall o bryd i'w gilydd hefyd, a bod sylwadau rhagfarnllyd am Saeson wedi pechu. Nid ydym yn esgusodi unrhyw ragfarn a fynegir, ond credwn fod y Saeson yn dod i ddeall y chwerwder sy’n gallu dod i’r wyneb weithiau a pheri loes, ar ôl iddynt ddysgu rhywfaint am hanes Cymru. Atgoffwn bob Cyfaill i “refrain from making prejudiced judgments about the life journeys of others”. [Cynghorion a Holiadau 22]
Yn ôl i'r brig
8.5 “Y pethau bychain”
Ar y cyfan, roedd yr ymatebion yn cyfeirio at brofiadau pob un ohonom: mai’r hyn sy’n gwneud y gwahaniaeth ar y cyfan, rhwng teimlo’ch bod yn cael eich cynnwys a’ch heithrio, yw’r pethau bychain - pobl yn sylwi ein bod yn bodoli, yn cofio’n henw a’r pethau yr ydym wedi dweud wrthynt; un neu ddwy gadair wag a gwên i’r rhai sy’n cyrraedd yn hwyr; gofyn (neu dderbyn) help rhywun gyda thasgau bach a gwerthfawrogi hyn; cael gwahoddiad personol i gyfranogi mewn digwyddiadau; bod rhywun yn gwrando ar farn rhywun gyda pharch, hyd yn oed os nad yw yr un fath â barn y mwyafrif yn y diwedd.
Nid yw awyrgylch croesawgar yn fater o bolisi a thaflenni; Cyfeillion unigol sy’n gyfrifol am ymateb i newydd-ddyfodiaid unigol. Rydym oll yn euog o beidio ag ymddwyn ar ein gorau bob amser, wrth gwrs, ond pan fyddwn yn gadael i gariad reoli, nid ydym mor debygol o fod yn esgeulus. Gellir defnyddio ychydig ddychymyg hefyd - pe byddai pob un ohonom yn aros am eiliad ac yn gofyn ‘Sut byddwn i’n teimlo mewn sefyllfa fel hon?’, gellir osgoi llawer o boen. Nid oes yn rhaid i chi fod yn newydd-ddyfodiad i fod yn agored i niwed yr ysgwyd dwylo a’r pigiadau hyn.
Hoffem danlinellu’r pwynt bod pob un ohonom yn unigolyn unigryw gyda nifer o elfennau sy’n cynnwys nid yn unig iaith, cenedligrwydd a diwylliant, ond hefyd ein rhyw, ein hoedran, ein swydd, ein graddau o anabledd, ein tueddiadau rhywiol yn ogystal â ffactorau dirifedi eraill, nid y lleiaf ohonynt, yr wreichionen ddwyfol ym mhob un ohonom. Mae’n ffydd yn ein dysgu bod person yn fwy na chyfuniad o elfennau demograffig. Wrth geisio bod yn fwy sensitif a derbyn pawb, bydd angen i ni fod yn ofalus nad ydynt yn trin ein gilydd fel ‘heriau’ un dimensiwn.
Galwn ar bob Cyfaill i gydnabod eu cyfrifoldeb fel croesawydd i fod yn sensitif ac yn groesawgar i newydd-ddyfodiaid a’r rhai nad ydynt mor newydd - peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd rhywun arall yn ei wneud! Cofiwch am bwysigrwydd ‘y pethau bychain’.
Yn ôl i'r brig
8.6 Croeso mewn cynulliadau mwy
Gall y mynychwyr sy’n penderfynu eu bod yn barod i fynychu cynulliadau ehangach y Crynwyr, gael sioc anghwrtais - yn llythrennol. Gallai awyrgylch gynnes, anffurfiol a chynhwysol eu cyfarfod ‘cartref’ gael ei ddisodli gan glicyddiaeth, nawddogaeth a threfniadau ffurfiol dryslyd nad oes unrhyw un wedi trafferthu eu hesbonio. Yn ogystal, gall Cyfeillion deimlo’u bod yn cael eu heithrio gan
Groups at Monthly Meeting who talk to each other as old, valued friends, leaving me to hover around looking at display material. Watch it, MFW!
Yn anffodus, nid oedd hwn yn brofiad unigryw. Dyma ddisgrifiad o dro cyntaf rhywun mewn cyfarfod misol:
I was an attender at the time. I had been told by Friends at my meeting that “You should go to Monthly Meeting - you need to expand your knowledge of Friends, wider than this little meeting...” So I decided to go to Monthly Meeting. Nobody else from the meeting was going there, but that was no great worry. You know, I felt quite happy among my Friends in X; I felt sure that I’d be happy there. But not a single Friend said a single word to me.... and strangely enough I’ve had it pointed out to me that the Meeting of Friends in Wales can be guilty of this as well.
Mae Cyfarfod y Cyfeillion yng Nghymru o leiaf yn gofyn i bawb wisgo bathodyn sy’n nodi eu henw; mae hyn yn sicrhau bod pawb yn gyfartal ac mae’n osgoi rhoi’r argraff o grðp mewnol. Ond dyma’r peth lleiaf y dylid ei wneud, fodd bynnag. Unwaith eto, mae’n fater o gofio’n cyfrifoldebau fel croesawyr. Ai yw hyn oherwydd ein bod mor awyddus i ddelio â’n busnes yn yr adeg byr sydd ar gael, fel ein bod yn esgeuluso’r croeso, neu a yw hyn oherwydd ein bod yn bobl swil ein hunain? Cymeradwywn yr arfer o wisgo bathodynnau yn y Cyfarfodydd Misol, sy’n nodi enw rhywun, a gofyn i Gyfeillion ddweud pwy ydynt pan fyddant yn gwneud cyfraniad i’r busnes. Anogwn bob Cyfaill yn unigol i fanteisio ar unrhyw egwyl rhwng materion busnes i ddod i adnabod newydd-ddyfodiaid. Gofynnwn i gyfarfodydd lleol geisio sicrhau y caiff unrhyw un sy’n mynychu CM neu CCNg am y tro cyntaf gymorth Cyfaill sydd wedi mynychu o’r blaen ac sy’n gallu esbonio’r trefniadau a chyflwyno’r newydd-ddyfodiad i eraill.
Roedd gan Gyfarfod Misol Henffordd a Chanolbarth Cymru rai ystyriaethau pellach ynghylch cynhwysedd yr ydym yn eu cymeradwyo i gyfarfodydd misol a grwpiau mawr eraill:
- Cydnabod cyfyngiadau corfforol a meddyliol pobl - ee clyw [a nodwyd yn un o’r 11 blaenoriaeth]
- Gwneud mwy o ymdrech i gynnwys yr ifanc mewn rhagor o Gyfarfodydd Misol, gwrando ar adroddiadau pobl ifanc, addoli i bob oedran pan na cheir cyfarfod busnes
- Llai o ffurfioldeb
- Llai o edrych yn fewnol a threulio llai o amser yn delio â manylion gweinyddol a mwy ar rannu profiad ysbrydol
- Cynnal digwyddiadau cymdeithasol yn ogystal â rhai ‘busnes’
Trafodir rhai o’r pwyntiau hyn mewn mannau eraill. Mae’r te yng nghyfarfodydd misol yn enwog - oni fyddai’n braf pe bai croeso cyfan CM i newydd-ddyfodiaid yr un mor dda?
Yn ôl i'r brig
8.7 Rhannu’n ffydd a’n harfer
Mae gofal ar gyfer y rhai nad ydynt mor newydd yn hollbwysig. Fel arfer, rydym yn llwyddo i gynnig croeso cynnes ar y cychwyn (gweler 8.1 uchod), ond ar ôl i bobl fynychu ychydig gyfarfodydd, rydym yn teimlo weithiau nad oes gennym unrhyw gyfrifoldebau pellach yn eu cylch. Maent yn aml yn gorfod dysgu am Grynwriaeth trwy osmosis.
There was no information about how it all worked or how they lived. You just went in and “did it”. There wasn’t any real introduction to it except for a little pamphlet I was handed . That was my entire induction. I can’t remember what the pamphlet said, but it didn’t help me very much.... I never felt I was being drawn into the community.
I was an on/off attender at one meeting for some time, wanted to find out how to get more involved/wanted to investigate/discuss more - but it was impossible to get any information out of anyone.
Oherwydd ein bod yn cymryd ein ffyrdd ein hunain o wneud pethau yn ganiataol, ac yn aml yn anghofio esbonio, gall y rhai nad ydynt wedi bod yn ein plith am gyfnod hir gael yr argraff o set o reolau dirgel y mae’r aelodau cyflawn yn unig yn gwybod amdanynt. Nid ydynt yn gwybod am yr hyn a ganiateir a’r hyn na chaniateir, ac maent yn ofni pechu (nid heb reswm, fel yr ydym wedi disgrifio’n flaenorol). Felly, gallant gael eu heithrio yn ddiofal ac yn ddianghenraid.
Excluded by lack of Quaker background, eg asked by Quaker friend whether would give BYM a try last year; felt could not as my own meeting had not suggested it.
Yn ôl i'r brig
Yn ei Darlith Swathmore ym 1997, dadleuodd Christine Trevett fod angen proses ‘sefydlu’, er na wnaeth nodi’r dull gweithredu. Ers hynny, gwelwyd cydnabyddiaeth fwy cyffredinol o’r angen hwn yn y Cyfarfod Blynyddol. Mae Jennie Levin yn Woodbrooke yn datblygu cynllun newydd ynghylch dysgu mewn cyfarfodydd, o’r enw ‘Hearts and minds prepared’. Rydym yn ymwybodol bod nifer o gyfarfodydd yn ystyried y materion hyn bellach, sy’n codi o’r angen i ystyried aelodaeth yng Nghyfarfodydd Blynyddol 2000 a 2001. Rydym eisoes wedi sonio am y prosiect ar ‘Rhannu’n Ymarfer a’n Ffydd.’ [Gweler Adran 1.5]
Mae grwpiau astudio, anerchiadau byr gan Gyfeillion yn y cyfarfod a siaradwyr gwadd yn ffyrdd o esbonio’n ffydd a’n harfer sydd wedi cael eu profi. Gellir gweld cyfleoedd llai strwythuredig mewn trafodaethau yn dilyn cyfarfod addoli neu ystod prydau bwyd a rennir. Rydym wedi clywed bod rhai cyfarfodydd wedi cyflwyno slot byr ar ôl y cyfarfod addoli a chyn cyhoeddi hysbysiadau i rannu ystyriaethau am y weinidogaeth yn ystod y cyfarfod neu leisio ‘gweinidogaethau’ wedi hanner eu ffurfio, na chyfeiriwyd atynt. Mae eraill yn sicrhau bod blaenor ar gael i ateb cwestiynau ar ddiwedd y cyfarfod addoli.
Mae nifer o leoedd ar draws y Cyfarfod Blynyddol yn ystyried syniad mentora, ac mae o leiaf un cyfarfod yng Nghymru, eisoes wedi ffurfio cynllun i neilltuo Cyfaill unigol ar gyfer pob newydd-ddyfodiad. Dywedodd un cyn-fynychwr wrthym, sydd wedi troi at Gatholigiaeth erbyn hyn, ei bod yn ddefnyddiol iawn cael cyfnod o gyfarwyddyd unigol mewn Catholigiaeth. Teimlwn fod hwn yn fodel y gallai’r Cyfeillion ei addasu i’n dull gweithredu ni, nad yw’n hierarchaidd na’n gredoaidd. Mae gan gynllun o’r fath fanteision arbennig ar gyfer cyfarfodydd gwledig lle y mae’r aelodaeth yn wasgaredig. Os byddai Cyfeillion yn fodlon ymateb i’r her, gallai dod yn ffrind i fynychwr newydd fod yn un o’r ffurfiau mwyaf effeithiol a naturiol o ‘sefydlu’, a chredwn y byddai o fudd i’r un sy’n cael ei neilltuo i fod yn ffrind iddynt hefyd.
Mae Dr John Hayward, y cyfeiriwyd at ei astudiaethau o eglwysi llwyddiannus yn gynharach, wedi darganfod mai’r ffordd fwyaf effeithiol o ddod â phobl i eglwys, yw nid trwy lansio ymgyrchoedd cymhleth, ond trwy feithrin bywydau ysbrydol y rhai sy’n mynychu eisoes.
Anogwn cyfarfodydd ar lefel lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i gynnwys ystyried dulliau priodol o ‘sefydlu’ yn ffordd y Crynwyr, a helpu ein gilydd i’w hymgorffori, yn uchel ar eu hagenda.
Yn ôl i'r brig
|