|
Y Crynwyr yng Nghymru Prosiect Croeso Ysbrydol
|
ENGLISH
Crynwyr Cymru
Croeso
Rhagair
Pennod 1
Pennod 2
Pennod 3
Pennod 4
Pennod 5
Pennod 6
Pennod 7
Pennod 8
Pennod 9
Pennod 10
Pennod 11
Atodiad I
Atodiad II
Atodiad III
Atodiad IV
Atodiad V
Atodiad VI
Cyfeiriadau
Cydnabyddiaeth
Rhestr o Dermau’r Crynwyr
Contact us:
stevie.k
@tiscali.co.uk
This project
is entirely
funded by the
Joseph Rowntree
Charitable Trust
|
Pennod 9: Pa gymorth y mae cyfarfodydd ei eisiau?
Part of our central responsibility is to support and encourage the work of local meetings.
Cyfarfod i Ddioddefiannau, Mehefin 2002
Hwn oedd ein cwestiwn olaf yn y chwe gweithdy: Wrth wneud eich gwaith ymestyn i’r gymuned a chroeso ysbrydol, pa gymorth yr hoffech chi ei gael gan Gyfarfod y Cyfeillion yng Nghymru a/neu Gyfarfod Blynyddol Prydain? Yn yr adran hon, byddwn yn tanlinellu rhai o’r prif themâu a gododd wrth ystyried hyn, na chânt eu trafod mewn adrannau eraill.
Ym mwyafrif yr achosion, ni chyfeiriwyd yr awgrymiadau a wnaethpwyd wrth ateb y cwestiwn hwn, at CBP na CCNg yn benodol; mewn gwirionedd, nid yw’n eglur weithiau yng nghylch gorchwyl pwy y dylai’r syniad gael ei gynnwys. Felly, os byddai’r syniadau arbennig hyn yn cael eu hawgrymu, efallai y byddai angen i CBP a CCNg drafod y peth. Rydym wedi ceisio cyfeirio’n hargymhellion mewn ffordd briodol.
Nid ydym yn cynnig trafod y ceisiadau am arian uniongyrchol, gan ei bod yn ymddangos yn annhebygol bod gan CCNg na CBP adnoddau ariannol dros ben ar gyfer y dibenion a gynigiwyd. Fodd bynnag, rhestrwyd yr holl awgrymiadau a gyflwynwyd yn Atodiad E, er mwyn i’r cyrff dan sylw allu ystyried yr hyn sy’n ymarferol.
Roedd mwyafrif y Cyfeillion yn cytuno bod angen parhaus am gymorth o’r tu allan. Defnyddiwyd y geiriau ysbrydoliaeth, cymhelliant ac anogaeth yn gyson. Gofynnwn i CBP nodi y bydd adnoddau a chymorth canolog yn parhau i fod yn hanfodol er mwyn ymestyn i’r gymuned leol yn effeithiol. Yn arbennig, bydd angen cynnal y dasg o egluro pwy ydym a’r hyn sydd gennym i’w ddweud, ar y cyd, a bydd angen ei ysbrydoli a’i gefnogi ar lefel y Cyfarfod Blynyddol.
Yn ôl i'r brig
9.1 Adnoddau ymestyn i’r gymuned
Gwnaethpwyd cais am fwy o ddeunyddiau dwyieithog dro ar ôl tro. Byddai’r Cyfeillion yn dymuno bod y deunyddiau mwyaf defnyddiol a phoblogaidd ar gael yn ddwyieithog yn arbennig, neu mewn fersiwn Cymraeg a Saesneg - y daflen Your Guide to the Quakers, y ‘gold cards’, posteri ac ati. Roedd un awgrym yn sôn am becyn dwyieithog i ymholwyr a baratowyd yn arbennig i Gymru. Yn ogystal, gofynnodd y Cyfeillion am ragor o ddeunydd gwreiddiol yn Gymraeg yn unig. Ar hyn o bryd, dim ond llond dwrn o gyfieithiadau Cymraeg o rai o’r taflenni gwybodaeth safonol o faint cerdyn post, megis Eich Tro Cyntaf mewn Cyfarfod i Grynwyr, a llyfr am Thomas Wynne, sydd ar gael. Mae casgliad o draethodau yn Gymraeg, y bu cryn ddisgwyl amdano, yn cael ei baratoi ar hyn o bryd.
Mae CCNg yn ymwybodol iawn o’r diffyg, ac yn ein barn ni, nid oes angen eu hannog i ddelio â’r materion hyn cyn gynted ag y bo modd, trwy gydweithredu â’r cyrff a’r staff perthnasol yn CBP.
Yn ôl i'r brig
9.2 Gwybodaeth a Rhwydweithio
Gofynnodd nifer o Gyfeillion am “Lai o waith papur”, a gofynnodd eraill yn yr un cyfarfodydd am “Ragor o wybodaeth!” Efallai nad yw’r ddau gais mor wrthgyferbyniol ag y maent yn ymddangos fodd bynnag. Yn gyntaf, nid oes yn rhaid i’r wybodaeth gael ei chyfleu ar bapur a’i hanfon at y clerc. Mae gan Gyfarfod Blynyddol Prydain wefan sy’n cynnwys llawer o’r wybodaeth eisoes i ymholwyr ac i gynorthwyo gwaith lleol ymestyn i’r gymuned. Ar hyn o bryd, mae angen diweddaru a datblygu’r tudalennau hynny’n barhaus - blaenoriaeth bwysig arall sy’n cystadlu am yr arian prin ac amserlen llawn y staff. Fodd bynnag, nodwn fod cynlluniau CBP yn rhoi blaenoriaeth uchel i ddiweddaru a datblygu ei wefan, yn enwedig ynghylch ymestyn i’r gymuned.
Mae’n amlwg bod y Rhyngrwyd yn dod yn ddull fwyfwy pwysig wrth ymestyn i’r gymuned; mae Adran Ymestyn i’r Gymuned Friends House yn adrodd am gyfran gynyddol o ymholiadau’n cael eu gwneud trwy’r llwybr hwnnw (267 o 669 o geisiadau am becynnau i ymholwyr yn ystod y flwyddyn hyd at 31 Mai 2002). Mae’r ffigyrau yng Nghymru yn dangos patrwm tebyg. Mae hyn yn arwyddocaol hefyd o ran pryderon ynghylch poblogaeth y Crynwyr sy’n heneiddio, o ystyried bod defnyddwyr y We yn tueddu i fod yn bobl iau ar y cyfan. Argymhellwn fod Cyfarfod y Cyfeillion yng Nghymru yn cynllunio gwefan dwyieithog o ansawdd uchel, ac yn dod o hyd i rywun ac adnoddau i sicrhau y diweddarir y safle’n rheolaidd.
I’r rhai sy’n gofyn am “ragor o wybodaeth”, hoffem nodi bod Friends House, sy’n cynnwys staff y mae eu prif ddiben yn ymwneud â helpu cyfarfodydd lleol trwy roi cyngor a gwybodaeth iddynt, yn adnodd gwych ond yn adnodd na chaiff ei werthfawrogi ddigon. Mae llawer o’r hyn yr oedd Cyfeillion yn gofyn amdano (adnoddau ymestyn i’r gymuned, syniadau ynghylch cyfarfodydd i blant, arweiniad ynghylch nawdd a grantiau, cyngor cyfreithiol ac ymarferol ynghylch prynu tþ cyfarfod, ac ati) eisoes ar gael. Mae diffyg ymwybyddiaeth o’r hyn sydd ar gael. Mae Atodiad F yn rhestru rhai adnoddau ymestyn i’r gymuned sydd ar gael gan CBP, CCNg a Thapestri’r Crynwyr.
Mae Friends House mewn cyfyng-gyngor i ryw raddau - mae’n ceisio hysbysu cyfarfodydd am yr hyn sydd ar gael, ond mae perygl y bydd clercod yn cwyno’u bod yn cael gormod o bapurach os dosberthir y wybodaeth hon yn rhy rheolaidd. Rydym yn tueddu i deimlo y byddai cysylltiadau lleol dynodedig yn ôl yr angen, ar gyfer meysydd arbennig o wybodaeth, yn osgoi gorlwytho’r clercod. Nid oes yn rhaid i hyn arwain at gost postio ychwanegol; gellir anfon gwybodaeth at glercod i’w hanfon ymlaen (fel sy’n digwydd gyda llythyron i Flaenoriaid ac Adolygwyr), ac mae’r Cyfeillion yn defnyddio’r e-bost fwyfwy. Byddai cysylltiadau mwy eglur ar y wefan yn helpu cyfarfodydd i ddod o hyd i’r wybodaeth y maent ei hangen hefyd, pan maent ei hangen.
Yn ôl i'r brig
Yn y chwe gweithdy, fe wnaethom adael pecyn gwybodaeth am adnoddau ymestyn i'r gymuned. Bu’r Adran Ymestyn i’r Gymuned o gymorth mawr wrth ymateb i'n cais am y deunydd hwn, ond roeddem yn siomedig o ddarganfod bod y wybodaeth wedi’i gwasgaru ar draws nifer o restrau gwahanol, o wahanol maint a siâp. Roedd hi’n anodd lleoli eitemau arbennig, hyd yn oed os oeddech yn gwybod yr hyn yr oeddech yn chwilio amdano. Roedd hi’n anodd iawn dod o hyd i’r fideo ymestyn i’r gymuned Meeting Quakers; roeddem yn synnu na roddwyd mwy o sylw i hon. Argymhellwn fod yr Adran Ymestyn i’r Gymuned yn Friends House yn paratoi un rhestr gyfunol o’r holl adnoddau ymestyn i’r gymuned sydd ar gael gan y Cyfarfod Blynyddol. Awgrymwn y dylai eraill sy’n darparu adnoddau wneud yr un peth.
Roedd y Cyfeillion yn arbennig o awyddus i glywed am “newyddion o’r hyn y mae cyfarfodydd eraill wedi bod yn ei wneud - yr hyn sy’n llwyddo a’r hyn nad yw’n llwyddo.” Nid oedd yn ymddangos bod llawer yn gwybod am fodolaeth Reaching Out, y cylchgrawn chwarterol a gynhyrchir gan yr Adran Ymestyn i’r Gymuned yn Friends House, sy’n cynnig hynny. Anfonir copi ohono at bob cyfarfod lleol, ond os nad oes gan y cyfarfod ‘Gyfaill ymestyn i’r gymuned’, mae’n siðr bod y cylchgrawn yn mynd ar goll. Ar hyn o bryd, mae Quaker Life Outreach Committee yn gweithio ar gynigion i greu rhwydwaith o gysylltiadau ymestyn i’r gymuned, er mwyn iddynt allu rhannu gwybodaeth. Rydym yn cefnogi’r syniad o ffurfio rhwydwaith wybodaeth yn gryf, a gobeithiwn weld y syniad yn cael ei ymgorffori. Argymhellwn fod CCNg yn creu rhwydwaith tebyg yng Nghymru. Mewn unrhyw rwydwaith ymestyn i’r gymuned, dylid annog cysylltiadau ‘ochr’ rhwng cyfarfodydd lleol, yn ogystal â rhwng cyrff cenedlaethol a lleol.
Cyfeiriodd rhai Cyfeillion at yr angen am ddull gweithredu wedi’i gyd-drefnu tuag at gyhoeddusrwydd, gan fanteisio’n llawn ar gyfleoedd megis y pen-blwydd yn 350 oed yn ddiweddar, neu ganmlwyddiant Waldo Williams sydd i ddod. Byddai rhwydwaith yn golygu bod gwaith o’r fath i gyd-drefnu lawer yn haws, gan osgoi dyblygu ymdrechion dianghenraid.
Fodd bynnag, nid oes yn rhaid i’r Cyfeillion aros am fenter o'r uchelfannau i lawr. Fel yr ydym wedi dweud o'r blaen, ni fyddem yn dymuno ehangu nifer y ‘swyddi’, ond os oes rhywun ym mhob cyfarfod sydd â digon o ddiddordeb, gallent gael yr holl wybodaeth berthnasol a thynnu sylw’r cyfarfod at unrhyw eitemau arbennig heb orfod bod yr un sy’n gyfrifol o reidrwydd am sicrhau bod pethau’n digwydd. Argymhellwn fod cyfarfodydd lleol yn ceisio pennu cyswllt/gohebydd ymestyn i'r gymuned, a allai hysbysu’r Adran Ymestyn i'r Gymuned yn Friends House a chynullwr Pwyllgor Ymestyn i’r Gymuned CCNg o hyn, a dod yn rhan o rwydwaith gwybodaeth ymestyn i’r gymuned.
Back to top
9.3 Hyfforddiant
Dywedodd cyfarfodydd a Chyfeillion unigol wrthym dro ar ôl tro eu bod yn teimlo angen am hyfforddiant, yn enwedig wrth ddatblygu ‘llais Crynwr hyderus’. O bryd i’w gilydd, mae Woodbrooke a Quaker Life Outreach Committee yn cynnig cyrsiau hyfforddi mewn agweddau amrywiol ar sgiliau ymestyn i’r gymuned ar y cyd. (Cynhaliwyd un o’r fath ym mis Chwefror 2003, a alwyd yn Hold the Front Page, ynghylch sut i sicrhau bod newyddion y Crynwyr yn cael lle yn y cyfryngau lleol.) Gobeithiwn y bydd llawer yn rhagor ar gael yn y dyfodol. Eiriolwyd y canlynol gan Grðp Adolygu y Pwyllgor Ymestyn i’r Gymuned
Cynllun cenedlaethol o hyfforddiant parhaus i Gyfeillion ym mhob cwr o'r wlad, trwy gyfrwng cyrsiau, gweithdai, cynulliadau, ‘threshings’ a chynadleddau, er mwyn i'w gwaith lleol i ymestyn i’r gymuned, fod yn hyderus ac yn gadarn.
Eu gweledigaeth nhw, a gymeradwywn, yw bod angen hyfforddi’r hyn a elwir yn ‘arweinwyr’ ganddynt, a fydd yn eu tro, yn hyfforddi eraill - ‘yr effaith luosi’. Mae Quaker Life Central Committee eisoes wedi dechrau ymateb i argymhellion y Grðp Adolygu. Edrychwn ymlaen at glywed y neges ynghylch hyfforddiant yn cael ei gyfleu ar draws y Cyfarfod Blynyddol.
Yn ôl i'r brig
Nid hyfforddi Cyfeillion unigol yw’r unig ddewis. Dull gweithredu defnyddiol arall yw hyfforddi’r cyfarfod. Fel y soniwyd yn y cyflwyniad, nid ein hunig nod oedd casglu data, ond galluogi’r cyfarfodydd a gyfranogodd i ffurfio’u cynllun gweithredu eu hunain, y gallent ei ymgorffori os y dymunent. Cawsom ein synnu gan ymateb y Cyfeillion bod ein gweithdai wedi bod yn werthfawr, a’i fod wedi bod o gymorth iddynt ganolbwyntio ar ddelio â nodweddion penodol y sefyllfa leol. O ystyried y problemau daearyddol a logistaidd yng Nghymru, gwerthfawrogwyd y ffaith ein bod ni wedi dod atyn nhw, yn hytrach na chynnal digwyddiad mewn lleoliad ‘canolog’ y byddai nifer o’r rhai a fyddai’n dymuno mynychu yn ei chael hi’n anodd gwneud hynny. Teimlwn mai da o beth fyddai datblygu’r gweithdai hyn a rhoi cyfle i gyfarfodydd ar wahân i’r chwech gwreiddiol i ddatblygu eu cynlluniau gweithredu eu hunain.
Argymhellwn fod Cyfarfod y Cyfeillion yng Nghymru
(a) Yn trefnu cynulliad dilynol o’r chwe chyfarfod ‘gweithdy’
(b) Yn cynnig gweithdai tebyg ar gyfer cyfarfodydd lleol eraill yng Nghymru
(c) Yn cynnig gweithdai ‘y cam nesaf’ i gyfarfodydd sy’n dymuno ymgorffori eu cynlluniau gweithredu
(d) Yn annog aelodau o Bwyllgor Ymestyn i’r Gymuned CCNg i hyfforddi i fod yn ‘hyfforddwyr’, a allai gynnig gweithdai o’r fath a/neu hyfforddiant croeso ysbrydol arall a fyddai’n delio ag anghenion cyfarfodydd lleol yng Nghymru a thalu iddynt wneud hynny.
Wrth gwrs, byddai angen ystyried y broses o ariannu a hwyluso rhaglen o’r fath, ond teimlwn y byddai’n werth goresgyn unrhyw rwystrau. Adleisiwn argyhoeddiad Grðp Adolygu y Pwyllgor Ymestyn i’r Gymuned y byddai “Such training to speak faith will also deepen faith: outreach is the instigation to renewal.”
Yn ôl i'r brig
|