|
Y Crynwyr yng Nghymru Prosiect Croeso Ysbrydol
|
ENGLISH
Crynwyr Cymru
Croeso
Rhagair
Pennod 1
Pennod 2
Pennod 3
Pennod 4
Pennod 5
Pennod 6
Pennod 7
Pennod 8
Pennod 9
Pennod 10
Pennod 11
Atodiad I
Atodiad II
Atodiad III
Atodiad IV
Atodiad V
Atodiad VI
Cyfeiriadau
Cydnabyddiaeth
Rhestr o Dermau’r Crynwyr
Contact us:
stevie.k
@tiscali.co.uk
This project
is entirely
funded by the
Joseph Rowntree
Charitable Trust
|
Atodiad I: Dulliau a chwestiynau a ddefnyddiwyd mewn gweithdai ac ymgynghoriadau
Ar gyfer ein gweithdai yng Nghymru (chwe chyfarfod lleol, dau gyda Chyfeillion iau ac un gyda Chyfarfod Misol Henffordd a Chanolbarth Cymru), gwnaethom ddefnydd o’r dull grwp enwol. Caiff hwn ei ddiffinio fel grwp lle y mae pobl yn gweithio ym mhresenoldeb ei gilydd ond nad ydynt yn cael cyswllt ar lafar yn ystod yr ymarfer. Felly, byddem yn gofyn cwestiwn i’r grwp a byddai pob aelod yn ei ystyried yn dawel, ac yna’n ymateb trwy ysgrifennu eu syniadau ar bapur. Byddai’r rhain yn cael eu harddangos ar y wal a byddai’r grwp cyfan yn eu hystyried ac yn eu trafod. Nid oedd digon o amser yn y gweithdai i weithio ymhellach ar y syniadau a fynegwyd, ond fe wnaethom annog y cyfarfodydd i ddefnyddio’r deunydd maes o law er mwyn datblygu cynllun gweithredu. Bu’n rhaid gwneud trefniadau arbennig ar gyfer y rhai a oedd yn drwm eu clyw a’r rhai gwan eu golwg, ond bu’n hawdd gwneud hyn.
Mae gan y dull nifer o fanteision o’i gymharu â thrafodaeth mewn grwp. Mae’n sicrhau bod pawb yn gyfartal, er mwyn sicrhau nad yw’r siaradwyr mwyaf hyderus neu rhugl, y rhai sy’n meddwl gyflymaf a’r personoliaethau mwyaf penderfynol, yn rheoli’r ymarfer. (Wedi’r cyfan, nid eu syniadau nhw yw’r syniadau gorau o reidrwydd!) Drwy’r dull hwn, caiff holl syniadau da hyd yn oed aelodau mwyaf swil y grwp eu ‘cynaeafu’. Yn ail, mae’n golygu y bydd sylwadau pobl yn anhysbys, er mwyn bod pobl yn teimlo’u bod yn gallu mynegi eu hunain yn fwy diffuant. (Ar gyfer y rhan fwyaf o’r cwestiynau mwyaf personol, ni wnaethom arddangos yr ymatebion, ond yn hytrach eu casglu yn syth ar ddiwedd yr ymarfer.) Yn drydydd, mae’n galluogi grwpiau i baratoi llawer mwy o syniadau mewn amser cyfyngedig, nag a fyddai modd ei wneud mewn trafodaeth. Nid y lleiaf, mae’n ymddangos bod y dull yn cyd-fynd â dull gweithredu’r Crynwyr tuag at gydweithio, gan adael amser a lle i’r ysbryd weithio yn y tawelwch ac i bob unigolyn gael ei werthfawrogi a’i barchu.
Yn ein cyfarfodydd y tu hwnt i Gymru, fodd bynnag, roeddem yn teimlo’n bod yn rhan o ymarfer ymgynghori yn hytrach na gweithdy, ac y byddai’n ddigywilydd bron i ddefnyddio dull y grwp enwol. Yn ogystal, roedd mwyafrif y cyfarfodydd yn gymharol fawr, gyda hyd at ddeg ar hugain yn bresennol. (Mae dull y grwp enwol yn gweithio orau mewn grwp bach – deg neu lai yn ddelfrydol.) Gyda’r grwpiau ‘tramor’ hyn, roeddem yn awyddus i osgoi rhoi’r argraff o gwestiynu neu herio arferion y grwp hwnnw. Yn hytrach, gwnaethom ymdrech i gynnig ein cwestiynau fel pynciau i’w trafod ac er mwyn rhannu profiad ac arfer da. Gan mai trafodaethau llawn oedd y rhain, roedd yn amlwg bod cyfrinachedd ac ateb mewn ffordd anhysbys yn amhosibl, ac weithiau, roeddem yn teimlo nad oedd y materion sylfaenol yn cael eu lleisio oherwydd ofnau ynghylch peri loes neu godi pwnc dadleuol. Cymerwyd pob mantais, felly, o gyfleoedd i gynnal sgyrsiau preifat dros goffi neu brydau bwyd. Er nad oeddem yn mynd ati i ysgogi gweithredu yn y dyfodol, roedd hi’n amlwg mai hwn oedd yr achlysur cyntaf i Gyfeillion gael eu gwahodd i ystyried eu croeso ysbrydol eu hunain, a gobeithiwn fod y cyfranogwyr o’r farn y bu’r cyfle hwnnw o fudd.
Yn ôl i'r brig
Gwelir isod restr o'r cwestiynau a ddefnyddiwyd gennym yn y gwahanol gynulliadau.
Cwestiynau a ddefnyddiwyd mewn gweithdai gyda chyfarfodydd lleol
- A fedrwch roddi enghraifft o ddigwyddiad, o sylw gan un o’r Cyfeillion, o daflen etc fu’n gymorth ichi deimlo’n rhan o gymuned y Crynwyr?
- A fedrwch roddi enghraifft o unrhyw beth wnaeth ichi deimlo eich bod allan ohoni?
- Be mae eich Cyfarfod wedi ei wneud hyd yn hyn ynghylch ymestyn i’r gymuned ac ynghylch croeso ysbrydol? Be oedd y prif ganlyniadau?
- Be, yn eich barn chi, yw’r bylchau yng ngweithgareddau croeso ysbrydol eich Cyfarfod?
- Be ydy’r trafferthion o gynnig croeso ysbrydol yn eich cymuned neilltuol?
- A ydy’r cyfarfod yn drawslun o’r gymuned? Pa grwpiau sydd ar goll? Pam?
- Rhoddwch amlinelliad o dri pheth (os medrwch!) fyddech yn dewis eu gwneud i wella croeso ysbrydol yn eich cyfarfod.
- Sut fedrai Cyfarfod y Cyfeillion yng Nghymru fod o gymorth i wireddu eich syniadau?
- Pynciau a archwiliwyd mewn cyfarfodydd ymgynghori y tu hwnt i Gymru
- A fynychir eich cyfarfodydd gan groestoriad cynrychioliadol o’r gymuned o’ch cwmpas? Os na, pa grwpiau sydd ar goll? A allwch awgrymu’r rhesymau dros hyn?
- Pa faterion arbennig yn ymwneud â chynhwysedd sydd wedi codi yn eich cyfarfod yn ddiweddar (hil, dosbarth, rhyw, oedran, iaith, anabledd, tueddiadau rhywiol neu unrhyw agwedd arall o’r sefyllfa gymdeithasol)?
- Pa gamau a gymerwyd gennych i ddelio â nhw?
- Pa mor effeithiol oedd y mesurau a gymerwyd? Pa wersi a ddysgwyd?
- Sut ydych chi’n cyflawni gwaith ymestyn i’r gymuned yn ardal eich CB/CC/CM?
- Pa gymorth sydd ar gael i gyfarfodydd lleol, neu Gyfeillion unigol (ee taflenni a gynhyrchir yn lleol, llinell wybodaeth, hysbysebion, posteri ac ati)?
- A oes gennych strwythur/polisi/pwyllgor cenedlaethol/rhanbarthol i ystyried ymestyn i’r gymuned?
Yn ôl i'r brig
|