Y Crynwyr yng Nghymru
Prosiect Croeso Ysbrydol

ENGLISH


Crynwyr Cymru


Croeso

Rhagair

Pennod 1

Pennod 2

Pennod 3

Pennod 4

Pennod 5

Pennod 6

Pennod 7

Pennod 8

Pennod 9

Pennod 10

Pennod 11

Atodiad I

Atodiad II

Atodiad III

Atodiad IV

Atodiad V

Atodiad VI

Cyfeiriadau

Cydnabyddiaeth

Rhestr o
Dermau’r Crynwyr


Contact us:
stevie.k
@tiscali.co.uk


This project
is entirely
funded by the
Joseph Rowntree
Charitable Trust

Atodiad II:
Pynciau a drafodwyd yn
ystod cyfweliadau personol

  1. Cwestiynau ‘bywgraffyddol’: oedran, statws priodasol, plant, lle y cawsoch eich magu, ers pryd yr ydych wedi bod yn byw yn eich lle presennol, magwraeth grefyddol (os o gwbl), ymlyniad crefyddol presennol (os o gwbl), ymlyniad crefyddol eich partner [os yw’n berthnasol], eglwysi neu ffydd arall y rhoddwyd cynnig arnynt. [Dylid nodi gwryw/benyw. Yn ogystal, efallai y bydd angen gofyn a yw’r ymatebydd yn siarad Cymraeg neu beidio – efallai na fydd siaradwyr Cymraeg o reidrwydd yn dewis gofyn am gyfweliad yn Gymraeg]

  2. A allwch chi gofio am y tro cyntaf i chi glywed am y Cyfeillion?

  3. Pam oeddech chi’n dymuno cael gwybod mwy? A oedd yr atyniad yn un ysbrydol neu wedi’i seilio ar chwilfrydedd ffeithiol? Beth arweiniodd chi i roi cynnig ar gyfarfod y Crynwyr?

  4. Pa mor hawdd oedd hi i chi ddod o hyd i’ch cyfarfod lleol?

  5. Pa fath o groeso a gawsoch chi fel newydd-ddyfodiad? [Os yw’n berthnasol] Pa fath o groeso gafodd eich plentyn(plant)?

  6. Pa ymdrechion a wnaethpwyd i’ch tynnu chi [a’ch plentyn(plant)] i fywyd y cyfarfod? Pa ymdrechion a wnaethpwyd i esbonio Crynwriaeth ac ateb eich cwestiynau? Pa ymdrechion a wnaethpwyd i bennu’ch anghenion ysbrydol yn hytrach na’ch anghenion cymdeithasol?

  7. A gawsoch eich hannog i fynychu cyfarfodydd at ddibenion busnes yn ogystal ag addoli? A wnaethoch hynny? Beth oedd eich ymateb?

  8. Gyda pha bethau yr oeddech yn teimlo’n gyffyrddus yn eu cylch? Pa bethau nad oeddech yn teimlo’n gyffyrddus amdanynt? Os yn siarad Cymraeg: A oedd yr iaith yn berthnasol? A oeddech yn teimlo’n anghyffyrddus yn siarad Cymraeg neu’n gweinidogaethu yn Gymraeg, neu a gawsoch eich annog i beidio â gwneud hynny, neu a oedd y Cyfeillion yn eich annog i wneud hynny?

  9. [Os yw’n berthnasol] Beth arweiniodd chi i adael Y Crynwyr yn y diwedd?

  10. Pa argraffiadau sydd gennych o’r Crynwyr fel cymuned? Beth yw barn y bobl leol am Grynwyr? Os byddai’n rhaid i chi ddweud wrth rhywun o blaned arall, sut bobl yw’r Cyfeillion fel grwp, beth fyddech chi’n ei ddweud?

  11. Sut mae’r Cyfeillion yn cymharu â grwpiau crefyddol eraill y mae gennych brofiad ohonynt ee, yn fwy neu’n llai croesawgar?

  12. A oes gennych unrhyw awgrymiadau ynghylch pa ffyrdd y gallai Cyfeillion roi gwell croeso i unigolion sy’n dod i’w cyfarfodydd?

  13. A oes gennych unrhyw awgrymiadau ynghylch sut y gallai Cyfeillion gysylltu yn well â’r gymuned sydd o’u cwmpas?

Yn ôl i'r brig