|
Y Crynwyr yng Nghymru
|
Croeso Rhagair Pennod 1 Pennod 2 Pennod 3 Pennod 4 Pennod 5 Pennod 6 Pennod 7 Pennod 8 Pennod 9 Pennod 10 Pennod 11 Atodiad I Atodiad II Atodiad III Atodiad IV Atodiad V Atodiad VI Cyfeiriadau Cydnabyddiaeth Rhestr o Dermau’r Crynwyr Contact us: stevie.k @tiscali.co.uk This project is entirely funded by the Joseph Rowntree Charitable Trust |
RhagairWrth wneud yr argymhellion ynghylch newid, nid ydym yn awgrymu y dylid newid cymeriad sylfaenol Crynwriaeth. Ni allwn ac ni ddylem geisio sicrhau bod Crynwriaeth yn bopeth i bawb – y nod yw sicrhau bod map arbennig y Crynwyr ar gael i bawb sy'n debyg o weld y llwybr yn gydnaws, ac nid gwaredu’r hyn sy’n ei wneud yn wahanol. Nid ydym o’r farn ychwaith y dylai Cyfeillion geisio esgus eu bod yn rhywbeth nad ydynt er mwyn peri i newydd-ddyfodiaid deimlo’n fwy cysurus. Er y teimlwn y dylai’r Cyfeillion ymateb i ba mor sensitif yw newydd-ddyfodiaid (ac yn wir, eu gilydd) gymaint ag y bo modd, mae angen sicrhau cydbwysedd rhwng ystyried sensitifrwydd, a theimlo’n rhydd i fod yn chi eich hun a mynegi’ch gwir safbwyntiau. Rydym wedi gwneud ein gorau glas i geisio dod o hyd i ffyrdd lle y gall Crynwyr fod yn fwy ffyddlon i’w galwad, beth yw’r rhwystrau dianghenraid sy’n atal chwilwyr eraill rhag darganfod eu ffordd atom, a sut y gellir gwaredu’r rhwystrau hynny. Nid ydym yn dymuno cynnig cyngor delfrydol; fel y dywedodd un o’r rhai a ymatebodd, “Quakers are just ordinary people with as many character failings as others.” O bryd i’w gilydd, mae pob un ohonom yn siwr o beri loes neu dramgwydd yn anfwriadol i rhywun, neu fethu â chyrraedd ein safonau uchel ein hunain. Nid hunanfflangellu yw hyn, ond yn hytrach, mae’n ymwneud â gosod meincnod i’n hunain fel Crynwyr. Rydym yn hynod o ddiolchgar am y fraint o fod wedi cael cyfarfod â’r holl unigolion a chyfarfodydd sydd wedi’n cynorthwyo. Roedd y rhan fwyaf ohonynt yn gobeithio, fel yr ydym ni’n gobeithio, y byddai eu cyfraniad nid yn unig yn cael ei ddarllen yn eiddgar ac, yn hytrach na chael ei anghofio, y byddai’n gymorth fyddai'n arwain at newid. Os na chyflawnwyd unrhyw beth arall, rydym wedi sicrhau dau beth trwy gynnal yr ymchwiliad hwn: rydym wedi codi proffil y Crynwyr ar hyd a lled Cymru ac rydym wedi annog y Cyfeillion yng Nghymru, ac efallai y tu hwnt, i ymateb i her croeso ysbrydol. Dai Jenkins, Dafydd Jones, Stevie Krayer a Deborah Rowlands (Grwp Prosiect Croeso Ysbrydol) Ebrill 2003 Sylwer: Yn y mwyafrif o achosion, rydym wedi defnyddio termau Cyfaill a Chrynwr wrth gyfeirio at bawb sy’n mynychu cyfarfodydd y Crynwyr ac sy’n teimlo’u bod yn perthyn, pa un a ydynt yn aelodau ffurfiol o Gymdeithas Grefyddol y Cyfeillion neu beidio. Mae’r rhestr ar y dudalen nesaf yn esbonio termau eraill y Crynwyr. Yn ôl i'r brig |