Cyflwyno'r Crynwyr
Cyflwyno'r Crynwyr?
Yn wreiddiol llysenw oedd yr enw 'Crynwyr', - eu henw iawn yw Cymdeithas Greffyddol y Cyfeillion - ond bellach maent yn ddigon hapus i gael eu galw’n Gyfeillion neu'n Grynwyr.
Grwp bychan yw Cymdeithas Grefyddol y Cyfeillion (tua 28000 o aelodau a mynychwyr ym Mhrydain, tua 800 yng Nghyrnru a llawer iawn mwy yn America ac yn Affrna). Fel grwp maent yn arddel syniadau arbennig ar ystyr crefydd ac yn enwedig ar ystyr Cristnogaeth.
Gall unrhyw m fynychu un o’r Cyfarfodydd Addoli lleol. Ymhen y rhawg, os gwelant eu bed yn rhannu agwedda’r Cyfeillion, gallant ddod yn aelodau a chymryd mwy o ran ym mywyd y Gymdeithas.
Yn ôl i'r brig
Crynwyr a Christnogaeth
Cychwynnodd Crynwriaeth yn Lloegr yn ystod pum degau'r ail ganrif ar bymtheg, cyfnod y Weriniaeth. Daeth George Fox â gwahanol grwpiau o 'chwilwyr' ac anghydffurfwyr at ei gilydd. Teimlai'r rhain fod yr eglwysi, dros y canrifoedd, wedi arwain pobl ar gyfeiliorn, ymhell oddi wrth fwriad gwreiddiol Cristnogaeth ac wedi eu llyffetheirio gan draddodiad, defodaeth a gwleidyddiaeth grym,
Ceisio adfer y weledigaeth oedd y Crynwyr. Ceisio byw yn symlach ac yn gywirach a dilyn esiampl yr lesu'n agosach. 'Does dim dwywaith fod gwreiddiau Crynwriaeth mewn Cristnogaeth ac mae llawer o Grynwyr heddiw yn seilio eu ffydd ar ddysgeidiaeth yr lesu.
Ar y llaw arall mae iaith draddodiadol grefyddol yn rhwystr i rai Crynwyr amgyffred eu profiadau mewnol. Mae’r rhai hynny yn edrych i lygad ffynnon Crisnogaeth ac hefyd y tu hwnt i hynny.
Heb yr offeiriaid arferol ac heb y gwasanaethau a’r credoau mae'r Gymdeithas yn ymddangos yn wahanol iawn I’r grwpiau Cristnogol eraill.
Yn ôl i'r brig
Ydy Crynwriaeth yn grefydd neu'n agwedd at grefydd
Diben crefydd yw ein cynorthwyo i ddod o hyd i ystyr yn ein bywydau, cyrraedd y realiti gwaeiodol, y gwirionedd na ellir ei fynegi ac ar yr un pryd dod â phobl at ei gilydd mewn cymuned. Dros y canrifoedd bu'r egiwysi'n ymdrechu i gynorthwyo pobloedd i amgyffred y rhyfeddol mewn pethau cyffredin, neu, a'i roi mewn ffurf Grynwrol, i ddarganfod rhywbeth o Dduw yn ein bywyd pob dydd. Mae'r Crynwyr yn derbyn y gall pob un o'r prif grefyddau eraill arwain at fodlonrwydd ysbrydol. Ond i’r Crynwyr mae'r amgyffred Grynwrol o grefydd yn gymorth di-hafal ac ysbrydoledig.
Yn ôl i'r brig
Be mae'r Crynwyr yn ei gredu?
Holi a chwestiynu popeth a ddywedir wrthynt ei gredu yw un o nodweddion y Cyfeillion.
Mae hynny'n rhan o'u hen arfer o 'chwilio am y gwirionedd'. Hanfod yr agwedd honno yw eu profiad fod cysylltiad uniongyrchol rhwng pob unigolyn a Duw - er fod y Crynwyr yn defnyddio amrywiaeth o dduliiau ac o eiriau wrth geisio gwneud yr amhosibl, sef disgrifio ‘Duw’. Yn y pen draw mae'n rhaid i bob unigolyn ddod o hyd i'w lwybr ei hun at wirionedd crefyddol, at yr yrnwybyddiaeth o fodolaeth Duw yn ei fywyd neu ei bywyd. I wneud hynny mae angen defnyddio doethineb y gorffennol fel y'i ceir mewn amrywiaeth o lyfrau crefyddol a chyrnharu profiadau personol gyda phrofiadau rhai eraill yn y cwrdd.
Yn ôl i'r brig
Iesu a’r Beibl
Lle mae'r lesu'n dod i mewn i hyn i gyd? 'Dyw'r Crynwyr ddim yn treilio llawer o amser yn trin a thrafod diwinyddiaeth - er engraifft, ym mha ystyr yr oedd Iesu'n 'fab Duw’. Agwedd y Crynwyr yw mai’r hyn sy'n bwysig yw dysgu oddi wrth fywyd a dysgeidiaeth yr lesu - ac wedyn bwrw ymlaen o'r fan honno.
Yma, ym Mhrydain. mae'r rhan fwyaf o'r Cyfeillion yn ystyried y Beibl fel y ffynhonnell ysbrydol bwysicaf un - ond, nid chwaith, yr unig ffynhonell. Maent yn darllen y Beibl ochr yn ochr â llyfrau eraill, hen a newydd, sy'n cynnig arweiniad a chyfarwyddyd. Ond 'dyw’r Cyfeillion ddim ymysg y rhai sy'n amgyffred am lyfrau 'sanctaidd' fel ‘Gair Duw’. I'r Crynwyr mae'r llyfrau hynny yn cynnwys gormod o wrth-ddweud sydd yn ddyrys ac yn anirnadwy. Cymorth yw ysgolheictod ddiweddar i'r Crynwyr, wrth iddynt fynd i’r afael â'r Beibl a llyfrau mawr eraill.
Mae gan y Crynwyr gredoau ac agweddau ar y cyd ond 'does dim modd rhestru'r credoau hynny a'u defnyddio fel maen prawf aelodaeth o'r Gymdeithas. Mae'r Cyfeillion yn hoff o sôn am y'golau mewnol' sydd yn bodoli ym mhob bod dynol. I rai nid yw hyn yn ddim namyn 'cydwybod' neu 'ymwybyddiaeth foesol', ond i'r Cyfeillion mae'n fwy na hynny: mae'n rhan o'r profiad ysbrydol a chrefyddol ac yn cynnig arweiniad ar daith bywyd.
Yn ôl i'r brig
Dim Cymun, dim gwasanaeth?
Os oes rhywbeth o Dduw yrn mhob bod dynol - ac ym mhob man ac ym mhob peth - yna, 'does dim angen dyddiau gwyl na seremon?au na sagrafenau fel bedydd a chymun. Yn yr un modd nid yw'r Ty Cwrdd yn adeilad cysegredig : gellir ei ddefnyddio ar gyfer cerddoriaeth, bwyta, trafodaeth a diddanwch lawn cymaint ag ar gyfer addoliad. I’r Crynwyr nid oes unrhyw ffin, unrhyw derfyn yn bodoli rhwng crefydd a bywyd pob dydd. Mae popeth, gan gynnwys llawenydd a thristwch, y da a'r drwg, yn rhan o fywyd, yn rhan o ddysgu a thyfu. Dyma ddywedodd un o'r Cyfeillion cynnar am ei brofiad o addoli yn null y Crynwyr. "Teimlais y drwg ynof yn gwanhau a'r da yn cael ei ddyrchafu”. Efallai mai dyna pam y mae'r Crynwyr, yn amlach na pheidio, yn oddefgar ac yn obeithiol.
Yn ôl i'r brig
Y Nod - Y Baglu a’r Methu.
Gan fod y Crynwyr yn credu fod' Rhywbeth o Dduw' ym mhob bod dynol, eu nod yw dod o hyd i’r 'rhywbeth' hwnnw yrn mhawb - yn y rhai annwyl ac yn y rhai anystywallt, yn yr hen a’r ifainc, yn y du a’r gwyn, yn y tlawd ac yn y cyfoethog, mewn dynion a merched, yn y gwahanrywiog a'r hoyw. Dyna, i’r Crynwyr, yw ystyr caru Duw a charu ein gilydd. Maent yn ceisio byw yn weddol syml: peidio â rhoddi gormod o bwys ar arian, ar feddiannau neu statws, a pheidio â cholli golwg ar be sydd yn wirioneddol bwysig. Mae'r Crynwyr yn cael llawer o bleser a diddanwch allan o fywyd ond peidiwch â disgwyl eu canfod yn gamblio, yn yfed yn ormodol neu'n defnyddio cyffuriau. 'Dyw'r Crynwyr chwaith ddim yn debyg o fod ag unrhyw ran mewn ecsbloitio economaidd nac chwaith mewn gemau grym rhyngwladol a byd busnes.
Yn ôl i'r brig
Y Cyfarfod Addoli
Nid peth hawdd yw bod yn'chwiliwr' ar eich pen eich hun. Yn y Cyfarfod Addoli mae'r Cyfeillion yn rhannu eu profiadau y naill gyda'r liall ac yn elwa yn y modd hwnnw. Os gall pawb gael cysylltiad personol ac uniongyrchol â Duw ‘does dim angen offeiriad i weithredu fel cyfryngwr ac felly 'does gan y Cyfeillion ddim offeiriad na gweinidogion (mae'r aelodau'n rhannu'r gwaith ymarferol ymysg ei gilydd). Profiad y Cyfeillion yw y gellir ymglywed â'r cymundeb yma â Duw mewn distawrwydd heb unrhyw gynllunio na pharatoi ymlaen llaw. Mae'r Cyfarfod Addoli yn hollol symi : eistedd mewn distawrwydd. Gall y distawrwydd ar brydiau fod yn rymus a dwfn, cysylltiad uniongyrchol rhwng yr unigolyn a Duw.
Efallai y bydd un o'r Cyfeillion yn sefyll ac yn siarad neu weddio neu ddarllen o'r Beibl neu lyfr arall. Ond hanfod y Cyfarfod Addoli yw distawrwydd; ac mae'r Cyfarfodydd rheolaidd yn rhan bwysig o fywyd y Crynwyr.
Yn ôl i'r brig
Yr hyn mae’r Cyfeillion yn ei wneud
I’r Crynwyr mae'r profiad mewnol yn bwysig. Hwnnw, ym marn y Cyfeillion, sy'n rheoli rhawd ein bywydau, ac os na all y profiad wneud hynny pa ddiben sydd iddo? 'Does dim pwrpas mewn bod â ffydd heb weithredu ar sail y ffydd honno. Bu gonestrwydd wrth eu gwaith yn un o nodweddion y Crynwyr o'r cychwyn cyntaf (ac i lawer o fusnesau'r Crynwyr bu'r polisi hwnnw'n effeithiol ac yn Ilwyddiannus effeithiol). Mae gonestrwydd yn hanfodol bwysig ym marn y Crynwyr. Dyna pam y gwrthodant gymryd llw mewn llys barn. Byddai cymryd llw yn awgrymu y gellir gweithredu gwahanol safonau o onestrwydd dan wahanol amgylchiadau.
O'r cychwyn cyntaf hefyd bu gan y Crynwyr gonsyrn arbernig ynghylch amgylchiadau cymdeithasol ac ynghylch yr amgylchedd, Bu ganddynt ran amlwg mewn estyn cymorth i gaethweision, carcharorion, ffoaduriaid, a'r henoed, a cychwynwyd amryw a elusenau ac ymgyrchoedd dyngarol o ganlyniad i gonsyrn ymysg y Crynwyr.
Yn anad dim arall mae'r Crynwyr yn mynnu fod canlyn dysgeidiaeth a bywyd yr lesu'n golygu ymwrthod â rhyfel fel dull o ddatrys problemau. Maent yn mynnu ceisio cysylltu â‘r hyn sydd o Dduw ym mhob person. Dros y blynyddoedd bu’r Cyfeillion yn gweithio mewn gwahanol ffyrdd o blaid heddwch. Mewn gwahanol ddinasoedd ar hyd a lled y byd, mae ganddynt ganolfannau lle gall diplomyddion ddod ynghyd i drin a thrafod problemau. Mae yna hefyd amryw o brosiectau rhyngwladol sydd yn dod â phobl ifanc o wahanol wledlydd a chefndiroedd at ei gilydd.
Dywedodd William Penn, sefydlydd talaith a fu'n bodoli am 75 o flynyddoedd heb unrhyw fath o fyddin, na ddylai duwioldeb droi pobl o'r byd ond yn hytrach eu galluogi i fyw yn y byd. Ydy hyn yn nod amhosibl i ymgyrraedd tuag ato? Mae'r Crynwyr yn credu ei fod yn bosibl, ac, yn y byd sydd ohoni, yn credu fod cyrraedd y nod yn angenrheidiol.
Yn ôl i'r brig
Holi ymhellach
Efallai fod gan eich llyfrgell leol iyfrau ar y Crynwyr. Yno hefyd cewch wybodaeth am y mannau Cyfarfod Addoli agosaf.
Byddai croeso ichi mewn Cyfarfod Addoli a medrai’r Cyfeillion yno ateb eich cwestiynau a'ch helpu ymhellach.
|